Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Colegau arbenigol

Gall colegau arbenigol gynnig darpariaeth ddydd neu breswyl i fyfyrwyr 16 i 25 oed, gan roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau, dysgu a dod yn fwy annibynnol.

Mae nifer o golegau arbenigol yng Nghymru, y maen nhw yno i gefnogi dysgwyr yn benodol ar eu taith i'w bywydau fel oedolion. Caiff lleoedd mewn colegau arbenigol eu hariannu dim ond pan nad yw pobl ifanc yn gallu diwallu eu hanghenion addysg a hyfforddiant a nodwyd drwy ddarpariaeth coleg leol.

Beechwood College - Vale of Glamorgan (Yn agor ffenestr newydd)
Cambian Pengwer College - Rhuddlan, Denbighshire (Yn agor ffenestr newydd)
Coleg Elidyr - Llandovery (Yn agor ffenestr newydd)
Coleg Pls Dwbl - Clynderwen, Pembrokeshire (Yn agor ffenestr newydd)
Priory Colleges of North and South Wales - Wrexham and Pontypool (Yn agor ffenestr newydd)

Sut ydw i'n gwybod os yw coleg arbenigol yn iawn i fi?

Bydd angen i chi gysylltu â Gyrfa Cymru (Yn agor ffenestr newydd). Byddant yn gallu asesu'ch anghenion addysg a hyfforddiant. Os bydd coleg arbenigol yn cael ei nodi fel darparwr addysg a hyfforddiant, mae cais yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru gan Gyrfa Cymru.

Sut mae gwneud cais i goleg arbenigol?

Mae gan bob coleg ei set ei hun o ofynion. I gael rhagor o wybodaeth am eu gofynion, ewch i Gyrfa Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Oes rhaid i fi fynd i goleg arbenigol?

Mae'r penderfyniad hwn yn rhywbeth y mae angen i chi ei wneud gyda'ch rhieni / gwarchodwyr a'r lleoliad rydych am fynd iddo. Ymdrinnir â phob achos yn unigol.

Sut mae'r lleoedd mewn colegau arbenigol yn cael eu hariannu?

Mae lleoedd mewn colegau arbenigol yn cael eu hariannu dim ond pan nad yw pobl ifanc yn gallu diwallu eu hanghenion addysg a hyfforddiant a nodwyd drwy ddarpariaeth coleg leol a lle nodwyd y gall coleg arbenigol ddarparu cymorth priodol.

Am ba mor hir y gallaf fynd i goleg arbenigol?

Pan fyddwch yn mynd i goleg arbenigol, mae lleoedd fel arfer am ddwy flynedd academaidd ac yn cynnwys canlyniadau sy'n cael eu harwain gan dargedau a chanlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n cael eu monitro'n rheolaidd.

Pa gefnogaeth sydd mewn coleg arbenigol?

Mae ystod eang o gefnogaeth ar gael i ddysgwyr mewn colegau arbenigol. Mae ganddynt dimau ac arbenigedd arbenigol amlddisgyblaethol, sy'n galluogi myfyrwyr i bontio'n llwyddiannus i fywyd fel oedolyn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023