Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Cyfnod pontio ôl - 16

Wrth symud o un lleoliad i'r llall, mae cynllunio'r symud yn ofalus yn hanfodol.

Wrth feddwl am fynd i'r chweched dosbarth (cyfnod allweddol 3) neu goleg, dylai cynllunio ar gyfer symud i'r cam newydd ganiatâu digon o amser i'ch cefnogaeth barhau wrth ddechrau mewn lleoliad newydd. Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd flwyddyn cyn symud fel bod pawb yn ymwybodol o'ch anghenion a'ch dyheadau. Bydd ysgolion yn rhannu gwybodaeth â'r chweched dosbarth / coleg i gefnogi'r person ifanc ac i wneud y broses hon mor hawdd â phosib.

Sut bydd y coleg a'r chweched dosbarth yn gwybod am fy anghenion?

Dylid gwahodd CADY Uwchradd / swyddogion pontio o'r coleg a'r chweched dosbarth i bontio adolygiadau sy'n canolbwyntio ar unigolion (CAU), fel arfer ym mlwyddyn 9 / 10.

Pa gefnogaeth fydda i'n ei chael yn y chweched dosbarth neu goleg?

Mae'r gefnogaeth y byddwch yn ei chael yn dibynnu mewn gwirionedd ar eich anghenion. Dylai unrhyw gefnogaeth a gawsoch yn yr ysgol uwchradd barhau os yw'n dal yn briodol. Os yw hyn yn rhywbeth sy'n eich poeni chi, cysylltwch â'r chweched dosbarth neu'r coleg cyn gwneud cais. Byddant yn siarad â chi am opsiynau a sut y gallech gael eich cefnogi.

Beth sydd ar gael ar gyfer addysg chweched dosbarth?

Yn Abertawe, mae gennym nifer o ysgolion sy'n cynnig addysg chweched dosbarth. Mae'r chweched dosbarth yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gan gynnwys Safon Uwch.

Pa opsiynau sydd o ran Addysg Bellach?

Yn Abertawe, y prif ddarparwr addysg bellach yw Coleg Gŵyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023