Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Dyscalcwlia

Mae dyscalcwlia yn anhawster penodol a pharhaus wrth ddeall rhifau. Gall hyn arwain at amrywiaeth o anawsterau.

Gall dyscalcwlia effeithio ar bob oedran a gallu.

Arwyddion cyffredinol

Mae llawer o arwyddion o ddyscalcwlia; dyma rai arwyddion cyffredinol a allai ddangos bod gan eich plentyn / person ifanc anawsterau sy'n arwain at dyscalcwlia.

Yr arwyddion cyffredinol i chwilio amdanynt yw:

  • Cael anhawster wrth gyfrif yn ôl
  • Bod â synnwyr gwael o rif ac amcangyfrif
  • Cael anhawster cofio ffeithiau 'sylfaenol', er gwaethaf oriau lawer o ymarfer / ddysgu ar y cof
  • Nid oes ganddo strategaethau i wneud iawn am ddiffyg cofio, heblaw am gyfrif
  • Cael anhawster deall gwerth lle a rôl sero
  • Nid oes ganddo unrhyw synnwyr ynghylch a yw unrhyw atebion yn gywir neu bron yn gywir ai peidio
  • Yn arafach wrth gyflawni cyfrifiadau
  • Yn anghofio gweithdrefnau mathemategol, yn enwedig wrth iddynt ddod yn fwy cymhleth, er enghraifft rhannu 'hir'
  • Yn osgoi tasgau sy'n cael eu hystyried yn anodd ac sy'n debygol o arwain at ateb anghywir
  • Ei sgiliau mathemateg pen yn wan
  • Yn pryderu'n fawr am fathemateg.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc dyscalcwlia a'i fod yn effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch  Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023