Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Dyslecsia

Mae dyslecsia yn anhawster dysgu sy'n effeithio'n bennaf ar lythrennedd a sgiliau sy'n gysylltiedig ag iaith.

Arwyddion cyffredinol

Gall dyslecsia gynnwys anawsterau mewn unrhyw gyfuniad, neu'r meysydd canlynol i gyd, er gwaethaf addysgu priodol ac ymyriad sy'n seiliedig ar dystiolaeth:

  • Darllen geiriau
  • Sillafu
  • Ysgrifeenu
  • Deall yr hyn maen nhw wedi'i ddarllen

Gall plant a phobl ifanc sydd â dyslecsia ei chael hi'n anodd cofio gwybodaeth y maent yn ei gweld a'i chlywed sy'n gallu effeithio ar eu dysgu. Gall dyslecsia hefyd effeithio ar feysydd eraill fel sgiliau trefnu.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc ddyslecsia a'i fod yn effeithio ar ei ddysgu, siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023