Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Eiriolaeth - cefnogi'r dysgwr

Bydd eiriolaeth yn dy helpu ac yn sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed pan wneir penderfyniadau sy'n effeithio arnat ti.

Beth yw eiriolaeth?

Bydd eiriolaeth yn dy helpu ac yn sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnat ti. Mae gen ti hawl i fynegi dy barn a bydd y gwasanaeth eiriolaeth yn dy gefnogi wrth gyflawni hyn.

Ni fydd eiriolwr yn gwneud y canlynol:

  • dy feirniadu di
  • dweud wrthot ti beth i'w wneud
  • siarad ag unrhyw un heb dy ganiatâd - oni bai dy fod wedi dweud wrtho y gall wneud hynny!

Beth fydd eiriolwr yn ei wneud?

  • Bydd yn dy helpu i siarad dros dy hun neu siarad ar dy ran os wyt ti eisiau iddo wneud hynny.
  • Gwrando ar dy bryderon neu beth sy'n dy boeni a dy helpu i wella hyn.
  • Bod yn agored ac yn onest gyda thi.
  • Dy helpu i herio penderfyniadau.
  • Dy helpu i baratoi at gyfarfodydd.
  • Esbonio i oedolion sut rwyt ti'n teimlo.
  • Esbonio i ti beth sy'n digwydd a beth sydd wedi'i gynllunio.
  • Dy helpu i ddatrys problem os wyt ti'n meddwl gwneud gwyn, honiad o wahaniaethu neu apêl.

Sut i gael cefnogaeth

Gelli di siarad â dy deulu, dy ysgol, dy weithiwr ieuenctid a dy weithiwr cymdeithasol am gael eiriolwr.

Dylai fod plentyn neu berson ifanc yn gallu cael ei eiriolwr ei hun heb ofyn i rywun arall nad yw o bosib yn gyfforddus â nhw wneud hynny ar ei ran.

National Youth Advocacy (NYA) - 0808 808 1001 E-bost: help@nyas.net

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Ebrill 2023