ADY - Gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli
Os nad ydych chi'n siŵr beth hoffech chi ei wneud ar ôl i chi adael yr ysgol neu'r coleg, mae yna nifer o opsiynau y gallwch eu harchwilio.
Cyflogaeth
Mae gan bob ysgol ymgynghorydd gyrfaoedd sy'n ymweld yn rheolaidd. Gallwch siarad â'ch ymgynghorydd gyrfaoedd yn yr ysgol neu Gyrfa Cymru (Yn agor ffenestr newydd). Byddant yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth.
Beth fyddwn i'n ei wneud yn y gwaith?
Pan fyddwch yn gweithio gallech ddefnyddio'r sgiliau sydd gennych eisoes, efallai y byddwch yn dysgu sgiliau newydd a byddwch yn ennill arian.
Faint o arian fydda i'n cael fy nhalu?
Mae Isafswm Cyflog Cenedlaethol ond weithiau gall cyflogwyr dalu mwy. Bydd hyn yn dibynnu ar eich cyflogwr.
Beth yw cyflogaeth a gefnogir?
Mae rhai cyflogwyr yn cynnig 'cyflogaeth a gefnogir'. Mae hyn yn canolbwyntio ar gynhwysiad ac mae'n galluogi pob ag anableddau i gyflawni'u nodau cyflogaeth.
Pwy all fy helpu i ddod o hyd i waith a gefnogir?
Cyflogaeth a gefnogir gan ELITE (de, canolbarth a gorllewin Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Prosiect cyflogadwyedd Engage to Change (Yn agor ffenestr newydd) i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed (ledled Cymru)
Mae Elite ac Engage to Change yn gweithio gyda phobl i'w helpu i:
- Ddod o hyd i waith.
- Dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud swydd.
- Ymgartrefu yn y swydd.
- Cael cefnogaeth i deithio i'r gwaith.
Hyfforddiant Pellach
Os ydych chi am weithio ond nid ydych yn barod eto, gallwch ymuno â rhaglen hyfforddiant leol. Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, siaradwch â Gyrfa Cymru (Yn agor ffenestr newydd). Mae hyn yn cynnig cyfle i chi ennill sgiliau a chymwysterau yn y gwaith, naill ai mewn canolfan hyfforddiant neu gyda chyflogwr lleol.
Beth yw'r opsiynau hyfforddiant?
Mae dwy lefel wahanol o hyfforddiant yn agored i chi:
- Engage - mae'r rhaglen hon yn eich cefnogi i ddatblygu'ch sgiliau Mathemateg a Saesneg, magu hyder a gwella sgiliau cyfathrebu. Efallai y cewch gyfle i roi cynnig ar leoliad gwaith gyda chyflogwr hefyd.
- Lefel 1 - os ydych yn barod ar gyfer lleoliad gwaith ac rydych yn gwybod pa fath o waith yr hoffech ei wneud, gallech ddechrau gweithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 1, Ar ôl i chi gwblhau Lefel 1, rydych chi wedyn yn gallu symud ymlaen i Level 2.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau yn swyddi sy'n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Rydych yn ennill cyflog wrth i chi weithio a dysgu.
Mae gwahanol fathau o brentisiaethau:
- Prentisiaeth Sylfaen - byddech fel arfer yn ennill cymhwyster Lefel 2 (sy'n cyfateb i TGAU A* - C) sy'n berthnasol i'r swydd.
- Prentisiaeth - byddech yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 (sy'n cyfateb i Safon Uwch) sy'n berthnasol i'r swydd.
- Prentisiaeth Uwch - byddech yn gweithio tuag at gymhwyster uwch neu Lefel 4 ac uwch. Gallai hyn fod yn Dystysgrif Genedlaethol Uwch / Ddiploma Cenedlaethol Uwch neu'n Radd Sylfaen.
- Gradd-brentisiaeth - mae'r rhain yn cynnig dysgu ar Lefel 6 ac yn rhoi'r cyfle i chi ennill gradd baglor lawn. Maent yn cyfuno gweithio ag astudio'n rhan-amser mewn prifysgol neu goleg.
Ble byddaf yn hyfforddi?
Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei wneud. Bydd eich cyflogwr yn penderfynu sut maen nhw am i chi gael eich hyfforddi er mwyn gwneud y gwaith. Dyma rai o'r ffyrdd y gallech gael eich hyfforddi:
- Hyfforddiant wrth weithio.
- Yn y coleg yn amser llawn neu'n rhan-amser.
- Mewn canolfan hyfforddi i gallwch fynd iddi unwaith yr wythnos.
- Yn y brifysgol os ydych yn gwneud lefel uwch neu radd-brentisiaeth.
Faint fydda i'n cael fy nhalu?
Mae isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid ond weithiau gall cyflogwyr dalu mwy. Bydd hyn yn dibynnu ar eich cyflogwr.
Sut mae dod i wybod am brentisiaethau?
Siaradwch â'ch ymgynghorydd gyrfaoedd yn yr ysgol neu cysylltwch â Gyrfa Cymru (Yn agor ffenestr newydd).
Gwaith gwirfoddol
Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn pob mat o brosiectau a gweithgareddau heb gael eu talu.
Pam gwirfoddoli?
Gall hyn helpu i ddatblygu sgiliau a hyder yn ogystal â darparu profiad gwaith defnyddiol. Gall hyn hefyd eich helpu i'ch cefnogi ar y llwybr i gael cyflogaeth am dâl.
Faint o amser y mae'n rhaid i fi ei dreulio'n gwirfoddoli?
Gall gwirfoddoli amrywio o wirfoddoli unwaith i ymrwymiad rheolaidd bob wythnos.
Sut galla' i gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ar ein tudalennau gwirfoddoli a gweithredu cymunedol.