Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Nam Amlsynhwyraidd

Mae gan blant a phobl ifanc sydd â nam amlsynhwyraidd namau ar eu golwg a'u clyw.

Mae llawer o blant / bobl ifanc hefyd yn wynebu heriau eraill, fel cyflyrau meddygol neu anableddau corfforol.

Arwyddion cyffredinol

Colli golwg:

  • Rhwbio llygaid yn gyson neu gochni llygaid cronig
  • Sensitifrwydd i olau eithafol
  • Craffu, cau un llygad, neu lygaid wedi'u camleoli
  • Canolbwyntio gwael neu'n cael anhawster dilyn gwrthrychau
  • Anallu i weld gwrthrychau o bell
  • Anallu i ddarllen bwrdd gwyn neu fwrdd du etc., neu'n cael anhawster darllen
  • Llygaid yn edrych yn gymylog
  • Un llygad yn fwy na'r llall, neu canhwyllau'r llygaid yn feintiau gwahanol
  • Rydych yn sylwi ar newid yn y ffordd y mae llygaid eich plentyn / person ifanc yn edrych fel arfer
  • Mae'n ymddangos bod eich plentyn / person ifanc yn gogwyddo'i ben yn gyson pan fydd yn edrych ar bethau.

Colli clyw:

  • Diffyg sylw - nid yw'ch plentyn / person ifanc yn cydnabod pan fyddwch chi'n siarad neu pan fydd yn clywed synau o gwmpas y tŷ
  • Gorfod bod yn agosach at siaradwr neu deledu
  • Nid yw'n ymateb i synau uchel
  • Syndod pan fo'r plentyn / person ifanc yn clywed ei enw
  • Gall hyn gael effaith ar ddatblygiad lleferydd.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc nam amlsynhwyraidd sy'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023