Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Nam ar y golwg

Mae nam ar y golwg yn golygu na fydd gwisgo sbectol yn gallu cywiro'ch golwg.

Gellir ei ddiffinio fel golwg glir. Mae gan y rhan fwyaf o blant / bobl ifanc sydd â nam ar eu golwg rhyw weithrediad gweledol ddefnyddiol a chyfran fach yn unig sy'n gwbl ddall.

Arwyddion cyffredinol

  • Angen rhagor o amser yn rheolaidd i gwblhau tasgau
  • Symudiadau llygaid afreolaidd
  • Anhawster canolbwyntio ar / dilyn gwrthrychau
  • Dim adwaith i oleuadau llachar neu'n goradweithio iddynt
  • Golwg anarferol i'r llygaid, er enghraifft maent yn gymylog neu'n goch
  • Rhwnbio llygaid a chwyno am ben tost
  • Dal deunyddiau / gwrthrychau dysgu'n rhy agos neu'n rhy bell i ffwrdd
  • Canolbwyntio a rhychwant sylw gwael a gall flino'n hawdd
  • Sensitifrwydd i olau / anhawster ymdopi â lefelau amrywiol o oleuni
  • Yn aml yn bwrw i mewn i wrthrychau neu'n eu camfarnu
  • Cael trafferth dringo grisiau a chanfod newidiadau mewn graddiannau
  • Yn gweld amgylchedd y maes chwarae yn heriol oherwydd y symudiad annisgwyl prysur
  • Methu cyfeirio'i hun yn amgylchedd yr ysgol.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc nam ar ei olwg sy'n effeithio ar ei ddysgu, ewch ag ef at optegydd a siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023