ADY - Pontio
Mae symud o un cam o'r ysgol i gam arall yn gyfnod o newid. I blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae angen cynllunio'r cyfnodau pontio hyn yn ofalus.
Beth yw pontio?
Pontio yw symud o un cam neu gyfnod addysg i un arall. Weithiau gall hyn gynnwys symud ysgol neu leoliad.
Mae pontio'n amser o newid. I blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, mae angen cynllunio'r pontio'n ofalus. Mae'n bwysig bod anghenion eich plentyn / person ifanc yn cael eu hystyried ar bob cam o'r cyfnod pontio. Byddwch chi a'ch plentyn / person ifanc yn cymryd rhan ym mhob cam o'r broses bontio.
Beth yw'r camau pontio?
Gall yr hyn y mae pontio'n ei gynnwys ddibynnu ar anghenion y plentyn / person ifanc. Gall gynnwys:
- Seddau newydd
- Athrawon newydd
- Grwpiau blwyddyn newydd
- Amserau cinio
- Egwyliau
- Ystafelloedd dosbarth newydd
- Ysgolion newydd
Beth yw pontio?
Mae'r cyfnod pontio'n edrych yn wahanol i ddisgyblion gwahanol yn ôl eu hanghenion. Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag ysgol/â choleg eich plentyn / person ifanc.
Pa gyfleoedd sydd i bobl ifanc ag ADY ar ôl iddynt adael yr ysgol?
Gall pobl ifanc adael yr ysgol yn gyfreithiol ar ddiwedd mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddant yn cyrraedd 16 oed.
O'r cam hwn, gallant fel arfer wneud eu penderfyniadau eu hunain am yr hyn y maent am ei wneud. Fodd bynnag, bydd angen cefnogaeth ar rai i wneud cynlluniau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau ôl-16.
Pwy arall all helpu?
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am bontio, mae nifer o bobl sy'n gallu'ch helpu. Gallwch gysylltu ag unrhyw un o'r canlynol:
- Athro dosbarth
- Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Swyddog Pontio Dynodedig
- Gyrfa Cymru (Yn agor ffenestr newydd)
- Pennaeth y grŵp blwyddyn / arweinydd bugeiliol.