Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Tîm Cefnogi Ymddygiad

Mae'r Tîm Cefnogi Ymddygiad yn cynnig cyngor i ysgolion / colegau ar draws Abertawe gan weithio gyda phlant / phobl ifanc ag anawsterau ymddygiad, emosiynol neu gymdeithasol.

Mae'r tîm yn cynnwys Athrawon Cefnogi Ymddygiad Arbenigol (ACY) a Chynorthwydd Cymorth. Maent yn darparu cefnogaeth ymarferol i staff ysgol ar gyfer disgyblion sy'n arddangos anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol (ACEY).

Sut fyddan nhw'n cefnogi fy mhlentyn / person ifanc?

Mae Athrawon Cefnogi Ymddygiad, lle bo angen, yn gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau neu blant / bobl ifanc unigol.

Maent hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer staff ysgol / coleg i helpu i ddiwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol.

Sut mae fy mhlentyn / person ifanc yn cael mynediad at y tîm?

Bydd angen i chi siarad ag athro dosbarth eich plentyn / person ifanc neu'r CADY. Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon a phederfynu ar y camau nesaf.