Tîm Anghenion Synhwyraidd
Mae'r Tîm Anghenion Synhwyraidd yno i gefnogi plant / pobl ifanc sydd ag angen ychwanegol.
Maent yn cefnogi plant / pobl ifanc sydd â'r cyflyrau canlynol:
- Dysgwyr B/byddar
- Nam ar y golwg
- Cymhwysiad - cefnogaeth a hyfforddiant i blant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg.
Pwy sy'n gweithio yn y tîm?
Mae'r tîm yn cynnwys athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu arbenigol sy'n rhoi cefnogaeth i ddisgyblion. Mae hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor hefyd yn cael eu rhannu rhwng ysgolion a rhieni.
Sut fyddan nhw'n cefnogi fy mhlentyn / person ifanc?
Mae arbenigwyr yn cynnig cyngor ac arweiniad i blant / bobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion ar faterion hygyrchedd. Mae canran uchel o blant / bobl ifanc sy'n derbyn y gwasanaeth hwn yn cael eu cefnogi mewn ysgol prif ffrwd.
Sut mae fy mhlentyn / person ifanc yn cael mynediad at y tîm?
Bydd angen i chi siarad ag athro dosbarth eich plentyn / person ifanc neu'r CADY. Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon a phenderfynu ar y camau nesaf.