Y Tîm Anghenion Corfforol a Chymhleth
Mae'r Tîm Anghenion Corfforol a Chymhleth yn rhoi cefnogaeth i blant / bobl ifanc a'u teuluoedd, ysgolion / colegau.
Mae'r tîm yn cynnwys athrawon arbenigol sy'n darparu cefnogaeth i ddisgyblion. Rhennir hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor hefyd gydag ysgolion a rhieni. Maen nhw'n gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol i sicrhau bod anghenion penodol y plentyn / person ifanc yn cael eu diwallu o fewn yr ysgol / coleg.
Pwy sy'n gweithio yn y tîm?
Mae'r tîm yn cynnwys athrawon arbenigol, sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â chyflyrau corfforol a meddygol cymhleth.
Sut fyddan nhw'n cefnogi fy mhlentyn / person ifanc?
Bydd hyn yn dibynnu ar anghenion eich plentyn / person ifanc, gan nad yw un dull yn addas i bawb. Maen nhw'n gallu cynnig cyngor a chymorth a gweithio gydag ysgolion / colegau a rhieni i sicrhau bod anghenion y plentyn / person ifanc yn cael eu nodi a'u cefnogi. Gall y tîm gefnogi plant / pobl ifanc a theuluoedd ar adegau o bontio, er enghraifft, symud ysgol.
Sut mae fy mhlentyn / person ifanc yn cael mynediad at y tîm?
Bydd angen i chi siarad ag athro dosbarth eich plentyn / person ifanc neu CADY. Byddan nhw'n gallu gwrando ar eich pryderon a phenderfynu ar y camau nesaf.