Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)
Rhaid i bob ysgol brif ffrwd a gynhelir yng Nghymru ddynodi person a fydd yn gyfrifol dros gydlynu cymorth i blant / bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r person hwnnw'n cael ei adnabod fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu CADY.
Beth ydyn nhw'n ei wneud?
Mae gan y CADY gyfrifoldeb cyffredinol am y canlynol:
- Ysgrifennu a rhoi polisi Anghenion dysgu Ychwanegol (ADY) ar waith.
- Goruchwylio'r gwaith o weithredu polisi ADY yr ysgol o ddydd i ddydd.
- Cysylltu a chynnig cyngor i staff yr ysgol ar faterion ADY.
- Rheoli staff cymorth ADY.
- Cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd i athrawon.
- Penderfynu a oes gan blentyn ADY ar y cyd ag arbenigwyr allanol.
- Bod â chyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau bod gan bob plentyn / person ifanc sydd ag ADY ar draws yr ysgol CDU.
- Cysylltu â rhieni plant ag ADY a threfnu cyfarfodydd adolygu.
- Cydlynu darpariaeth ar gyfer plant ag ADY.
- Goruchwylio cofnodion pob plentyn ag ADY.
- Cysylltu ag asiantaethau allanol gan gynnwys athrawon cynghori a gwasanaethau seicoleg addysgol, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a chyrff gwirfoddol.
Mae'r CADY yn gwneud yn siŵr bod anghenion pob plentyn / person ifanc sydd ag ADY yn cael eu diwallu.
Dwi'n pryderu am fy mhlentyn, â phwy y dylwn i gysylltu?
Am bryderon cyffredinol, yn gyntaf mae angen i chi siarad â'r athro dosbarth a / neu CADY yr ysgol / coleg. Eu nod yw gweithio gyda'i gilydd i'ch cefnogi a'ch arwain.
Os ydych chi wedi siarad â nhw, mae'ch plentyn wedi cael cefnogaeth ychwanegol ac rydych chi'n pryderu o hyd, yna siaradwch â CADY yr ysgol.
Beth fydd y CADY yn ei wneud i helpu fy mhlentyn?
Mae hyn yn dibynnu ar anghenion eich plentyn. Bydd y CADY yn gweithio gyda chi i drafod anghenion eich plentyn a sut y gellir ei gefnogi yn yr ysgol.