Gweithwyr Achos ADY
Mae'r tîm Gweithwyr Achos ADY yn rhoi cyngor i helpu rhieni a phlant / pobl ifanc ar eu taith. Gallant gynnig cyngor a chefnogaeth am faterion addysg ar gyfer plant / pobl ifanc ADY.
Sut bydd y gweithiwr achos ADY yn cefnogi fy mhlentyn / person ifanc?
Os oes gan eich plentyn / person ifanc anghenion dysgu ychwaengol, mae'r Gweithwyr Achos ADY ar gael i roi cyngor ar unrhyw bryderon ac ymholiadau sydd gennych sy'n gysylltiedig â'u haddysg. Gallant eich cefnogi drwy gynnig cyngor neu fynychu cyfarfodydd gyda chi os oes angen. Dydyn nhw ddim yn gweithio gyda phlant / pobl ifanc.
Pwy yw fy ngweithiwr achos ADY?
Mae gan bob ysgol a gynhelir yn Abertawe weithiwr achos ADY a neilltuwyd iddynt. Os oes angen i chi gysylltu â nhw, gallwch siarad â Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol / coleg neu gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol drwy e-bostio caseworker@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 636162.