Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyrwyddwr Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol

Mae'r HACC yn aelod o staff yr ysgol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol i gynnig cyngor a chymorth i staff sy'n cefnogi plant / pobl ifanc yn eu hysgolion.

Pa hyfforddiant mae'r HACC wedi'i gael?

Mae'r HACC wedi derbyn hyfforddiant SCERTS (Cyfathrebu Cymdeithasol, Rheoli Emosiynau, Cefnogaeth Weinrediadol) - mae'r rhaglen yn cefnogi plant / pobl ifanc i ddod yn gyfathrebwr cymdeithasol cymwys a hyderus a dysgwr gweithredol, yn ogystal â hyfforddiant ym meysydd Cyfathrebu Llwyr, Prosesu Synhwyraidd yn yr ystafell ddosbarth a chyflwyniad i Awtistiaeth.

Sut bydd hyn yn helpu fy mhlentyn?

Bydd yr ysgol yn gallu creu targedau, proffiliau un dudalen a strategaethau i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau o ran cyfathrebu cymdeithasol ac iaith a lleferydd.

Pwy alla i siarad â nhw am hyn?

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn anawsterau iaith a lleferydd, siaradwch ag ysgol eich plentyn. Siaradwch â'r athro'r dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY). Byddan nhw'n gallu gweithio gyda chi i weld a yw hyn yn wir a phenderfynu ar yr sy'n digwydd nesaf.

 

Close Dewis iaith