Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC)

Yn cefnogi plant dan 5 oed.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch datblygiad eich plentyn, dylech gysylltu â'ch ymwelydd iechyd yn y lle cyntaf. Byddant yn gwrando ar eich pryderon ac yn eich cynghori'n briodol.

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol gallwch drafod eich pryderon gydag athro dosbarth eich plentyn, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) neu brifathro.

Os yw eich plentyn yn mynd at ddarparwr gofal plant, gallwch siarad â'r rheolwr neu'r ymarferydd Anghenion Dysgu Ychwanegol arweiniol am eich pryderon. Gyda'ch caniatâd, gall eich darparwr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n cefnogi'ch plentyn drafod pryderon gyda Thîm Cymorth a Chynhwysiad ADY y Blynyddoedd Cynnar.

Beth mae'r SAADYBC yn ei wneud?

Mae'r SAADYBC yn gweithio'n agos gydag ymwelwyr iechyd ac yn monitro plant dan 5 oed i nodi ADY ar y cyfle cyntaf. Mae'r SAADYBC hefyd yn gweithio gyda Thîm Cymorth a Chynhwysiad y Blynyddoedd Cynnar i ddarparu cymorth a chyngor i leoliadau gofal plant.

Beth mae'r Tîm Cymorth a Chynhwysiad y Blynyddoedd Cynnar yn ei wneud?

Mae'r tîm yn canolbwyntio ar gefnogi lleoliadau gofal y blynyddoedd cynnar er mwyn nodi plant gydag oedi yn eu datblygiad, a sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn ei lle ar y cyfle cynnharaf.

Sut fyddan nhw'n cefnogi fy mhlentyn?

Ffocws y SAADYBC a gweddill y tîm yw eich helpu chi a phawb sy'n gweithio gyda'ch plentyn i ddeall yr anawsterau sydd ganddo ac i greu newid cadarnhaol.

Beth sy'n digwydd pan fydd fy mhlentyn yn dechrau yn y dosbarth Derbyn?

Bydd SAADYBC yn cefnogi eich plentyn nes bydd yn dechrau'r ysgol. Ar ôl i'ch plentyn gofrestru mewn ysgol, a mynych ysgol, mae'r cyfrifoldeb am gefnogi eich plentyn yn trosglwyddo i Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol.