Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA)

Mae gan y SACDA gyfrifoldeb dros gydlynu swyddogaethau'r bwrdd iechyd o ran plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r ddeddfwriaeth ADYTA yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gael arweinydd clinigol dynodedig addysg (SACDA). Mae hyn yn golygu os yw'r GIG yn ymwneud â gofal eich plentyn / person ifanc, y SACDA sy'n gyfrifol am y broses.

Beth mae'r SACDA yn ei wneud?

  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hyrwyddo gweithio aml-asiantaeth effeithiol.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch ADY ar draws y byrddau iechyd lleol.
  • Rheoli systemau effeithlon a chyson sy'n galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud atgyfeiriadau priodol i awdurdod lleol am blant cyn oed ysgol gorfodol.
  • Goruchwylio unrhyw gŵyn neu anghydfod sy'n ymweneud â dyletswyddau'r bwrdd iechyd lleol o dan Ddeddf ADYTA.
  • Sicrhau ansawdd gweithgareddau'r bwrdd iechyd lleol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag ADY.

Sut byddan nhw'n ymwneud â fy mhlentyn?

Ni fydd y SACDA yn ymwneud yn uniogyrchol â chi neu'ch plentyn / person ifanc, ond mae ganddo gyfrifoldeb yn y pen draw am rôl y GIG o ran cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

Beth os ydw i'n anghytuno â'r ddarpariaeth iechyd sydd ar waith?

Os oes gennych unrhyw gwynion am y bwrdd iechyd a'i gyfraniad o ran darpariaeth eich plentyn, bydd y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA) yn cydweithio â ni i geisio dod o hyd i ateb.

 

Close Dewis iaith