Tîm Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (TLlIC)
Mae'r Tîm Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (TLIIC) yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc ac yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Abertawe.
Pwy sy'n gweithio yn y tîm?
Mae'r tîm yn cynnwys athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu arbenigol ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig.
Sut fyddan nhw'n cefnogi fy mhlentyn / person ifanc?
Gall y tîm ddod i'r ysgol a chefnogi eich plentyn / person ifanc a gallant hefyd eu hatgyfeirio i wasanaeth therapi os yw'n briodol.
Maen nhw'n cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion ar ffyrdd y gallant gefnogi plant / pobl ifanc gydag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig.
Sut mae fy mhlentyn / person ifanc yn cael mynediad at y tîm?
Bydd angen i chi siarad ag athro dosbarth eich plentyn / person ifanc neu Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY). Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon a phenderfynu ar y camau nesaf.
Gwneir atgyfeiriadau ar gyfer y TLIIC ar gyfer plant cyn oed ysgol trwy'r llwybr cyn ysgol sy'n cael ei gydlynu gan Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC).