Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm Anawsterau Dysgu Cymhleth

Mae'r Tîm Anawsterau Dysgu Cymhleth yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion cynradd ac uwchradd yn Abertawe ar gyfer plant a phobl ifanc 3 i 19 oed ag anghenion dysgu cymhleth.

Mae gan y mwyafrif o blant / bobl ifanc sy'n derbyn y gwasanaeth hwn lefelau darpariaeth wedi'u hamlinellu ar eu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ac fe'u cefnogir mewn ysgolion prif ffrwd. Datblygir rhaglenni cefnogaeth i blant / pobl ifanc a chefnogir staff allweddol i roi rhaglenni ar waith.

Pwy sy'n gweithio yn y tîm?

Mae'r tîm yn cynnwys athrawon arbenigol sydd wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi'r rheini sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth. Mae hefyd yn cynnwys Swyddog Hyfforddiant Trafod â Llaw sy'n gallu hyfforddi ysgolion i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion corfforol cymhleth.

Sut fyddan nhw'n cefnogi fy mhlentyn?

Maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth i blant / pobl ifanc, eu teuluoedd a'u hysgolion. Gallant helpu i ddarparu rhaglenni o gefnogaeth i blant / pobl ifanc a sicrhau bod staff allweddol yn cael cfnogaeth wrth roi rhaglenni ar waith.

Sut mae fy mhlentyn / person ifanc yn cael mynediad at y tîm?

Bydd angen i chi siarad ag athro dosbarth eich plentyn / person ifanc neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY). Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon a phenderfynu ar y camau nesaf.

 

Close Dewis iaith