Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm Seicoleg Addysg

Bydd Seicolegwyr Addysg yn cefnogi plant / pobl ifanc mewn nifer o ffyrdd, gallant gynnig cyngor a chefnogaeth, cynnal arsylwadau ac asesiadau.

Beth mae Seicolegwyr Addysg yn ei wneud?

Maent yn cydweithio â phlant / pobl ifanc, ysgolion, rheini, gofalwyr ac asiantaethau eraill er mwyn helpu i archwilio materion sy'n peri pryder. Maent yn datrys problemau ar y cyd ar amrywiaeth o faterion a allai fod yn effeithio ar gynnydd plentyn neu berson ifanc yn yr ysgol, megis dysgu, datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol neu les seicolegol ac emosiynol. Gelwir y broses hon o ddatrys problemau ar y cyd yn ymgynghoriad.

Pwy sy'n gweithio yn y tîm?

Mae'r tîm yn cynnwys Seicolegwyr Addysg. Mae seicolegwyr addysg yn seicolegwyr cymwysedig sydd wedi ymgymryd â blynyddoed lawer o hyfforddiant arbenigol ym maes datblygu plant ac addysg.

Beth os yw fy mhlentyn yn rhy ifanc i fynychu'r ysgol?

Mae plant cyn oed ysgol y gall fod angen asesiad pellach arnynt yn cael eu nodi'n aml gan weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedyn yn ein hysbysu am anghenion dysgu ychwanegol posib y plentyn / person ifanc. Os ydym yn teimlo bod angen rhagor o wybodaeth am gryfderau ac anghenion plentyn / person ifanc, gallwn gysylltu â Seicolegydd Addysg i gasglu rhagor o wybodaeth a allai gynnwys asesiad. Asesir plant cyn oed ysgol gartref a / neu mewn lleoliadau cyn-ysgol.

Sut maen nhw'n cefnogi fy mhlentyn / person ifanc?

Bydd Seicolegwyr Addysg yn cefnogi plant / pobl ifanc mewn nifer o ffyrdd, gallant gynnig cyngor a chefnogaeth, cynnal arsylwadau ac asesiadau. Mae'r rhan i gyd yn helpu i greu darlun gwell o blentyn / person ifanc a sut y gellir ei gefnogi orau.

Sut mae fy mhlentyn / person ifanc yn cael mynediad at y tîm?

Bydd angen i chi siarad ag athro dosbarth eich plentyn / person ifanc neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY). Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon a phenderfynu ar y camau nesaf.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mawrth 2023