ADY - Pryderon cyffredinol
Rwy'n credu bod gan fy mhlentyn / person ifanc Angen Dysgu Ychwanegol, pwy ddylwn i siarad â nhw?
Siaradwch ag athro dosbarth eich plenyn i amlinellu'ch prif bryderon. Yr athro dosbarth yw'r person gorau i fynd i'r afael â'ch pryderon yn y lle cyntaf.
Os oes gennych bryderon o hyd, dylech ofyn i siarad â'ch ysgol / coleg Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a all roi rhagor o gymorth i chi.
Gall y pennaeth hefyd eich cefnogi os ydych yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch ar ôl i chi fynegi'ch pryderon.
Os ydych wedi siarad â'r bobl uchod ac yn teimlo bod gennych broblem o hyd, bydd angen i chi ddilyn y broses gwynion ar gyfer yr ysgol a chysylltu â chadeirydd y llywodraethwyr.
Ar unrhyw adeg yn y broses, gallwch gysylltu â'r Gweithwyr Achos ADY. Maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth i blant / bobl ifanc a'u teuluoedd. Cysylltwch â nhw drwy e-bost yn caseworker@abertawe.gov.uk.