ADY - Syndrom Down
Achosir Syndrom Down gan bresenoldeb copi ychwanegol o gromosom 21. Nid yw'n gyflwyr etifeddol ac mae'n digwydd trwy hap a damwain ar adeg beichiogi'r plentyn.
Bydd gan blentyn / berson ifanc â syndrom Down rywfaint o anabledd dysgu, ond bydd lefel y gallu'n wahanol i bob unigolyn.
Camau nesaf
Os ydych chi'n poeni bod Syndrom Down eich plentyn / person ifanc yn effeithio ar ei ddysgu, siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'r Ymwelydd Iechyd.