Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Syndrom Down

Achosir Syndrom Down gan bresenoldeb copi ychwanegol o gromosom 21. Nid yw'n gyflwyr etifeddol ac mae'n digwydd trwy hap a damwain ar adeg beichiogi'r plentyn.

Bydd gan blentyn / berson ifanc â syndrom Down rywfaint o anabledd dysgu, ond bydd lefel y gallu'n wahanol i bob unigolyn.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni bod Syndrom Down eich plentyn / person ifanc yn effeithio ar ei ddysgu, siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'r Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023