Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Ysgolion cynradd

Gall fod yn benderfyniad anodd dewis yr ysgol sydd fwyaf addas ar gyfer eich plentyn / person ifanc.

Ble dylai fy mhlentyn / mherson ifanc fynd i'r ysgol?

Weithiau gall dewis lleoliad ar gyfer eich plentyn / person ifanc fod yn un o'r pethau anoddaf y bydd angen i chi ei wneud. Y tymor ar ôl i'ch plentyn droi'n bump oed, mae ganddo'r hawl cyfreithiol i gael addysg.

Bydd mwyafrif y dysgwyr yn derbyn eu haddysg mewn ysgol yn eu hardal leol. Rhaid i bob lleoliad wneud addasiadau i helpu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at y cwricwlwm.

Sut rydw i'n dewis ysgol?

Mae'n bwysig dewis lleoliad sy'n addas i'ch plentyn / person ifanc. Dyma rai pethau i'w hystyried:

  • Gallwch ddechrau drwy chwilio am ysgolion yn agos atoch ar-lein, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ysgolion Abertawe yma
  • Ewch i ymweld ag o leiaf ddau leoliad fel bod gennych rywbeth i'w gymharu.
  • Oes gan y lleoliad yr holl bethau sydd eu hangen ar eich plentyn / person ifanc yn barod?
  • Ceisiwch gadw meddwl agored nes eich bod wedi edrych ar yr holl bosibiliadau.
  • Siaradwch ag unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'ch plentyn / person ifanc, gallai'r rhain gynnwys athrawon arbenigol neu'r seicolegydd addysg.

Beth y dylwn i ei ystyried wrth ymweld ag ysgol?

  • Faint o ddisgyblion fyddai yn nosbarth fy mhlentyn / person ifanc?
  • Faint o blant / bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd?
  • A yw tiroedd / cyfleusterau'r ysgol yn darparu mannau mynediad hygyrch?
  • Beth fydd yr ysgol yn ei wneud i sicrhau bod yr holl staff yn gwybod am anghenion uigol fy mhlentyn / person ifanc?
  • Sut mae'r ysgol yn trefnu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer plant / pobl ifanc y mae ei hangen arnynt?
  • Sut byddaf i'n rhan o'r cynllunio ar gyfer anhenion fy mhlentyn / person ifanc ac wrth adolygu ei gynnydd?
  • Sut bydd y plant eraill / pobl ifanc yn cael eu helpu i ddeall anghenion fy mhlentyn / person ifanc?
  • Sut bydd fy mhlentyn / person ifanc yn cael ei helpu i ymgartrefu yn yr ysgol a gwneud ffrindiau?
  • Sut byddaf yn cael y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol?
  • Sut bydd yr ysgol yn sichrau bod fy mhlentyn / mherson ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan ym hob un o feysydd y cwricwlwm ac mewn gweithgareddau allgyrsiol (fel clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol a gwibdeithiau).

Cofiwch, gall eich profiad chi o fywyd ysgol effeithio ar y ffordd rydych chi'n gweld yr ysgol. Ceisiwch roi'r teimladau hyn o'r neilltu ac edrych ar yr ysgol o safbwynt eich plentyn / person ifanc.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am wneud cais am le yn yr ysgol ar ein tudalennau derbyniadau ysgol.

Ydy Cyngor Abertawe yn darparu cludiant i fy mhlentyn / mherson ifanc fynychu ei ysgol gynradd?

Mae'r cyngor yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i ddysgwyr ag ADY lle rydym wedi penderfynu ar leoliad sy'n bellach na'r pellter statudol (2 filltir neu fwy). Ni fydd lleoliad sy'n seiliedig ar ddewis rhieni'n gymwys am gludiant rhwng y cartref a'r ysgol.

Lle nad yw plentyn / person ifanc yn gymwys i gael cludiant am ddim ac mae rhieni / gofalwyr yn barnu bod yr amgylchiadau'n gwbl eithriadol gellir gwneud cais am gymorth yda chludiant.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am gludiant ysgol ar ein tudalennau cludiant ysgol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023