Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Ysgolion uwchradd

Gall fod yn benderfyniad anodd dewis yr ysgol uwchradd a fydd fwyaf addas ar gyfer eich plentyn / person ifanc.

Ble y dylai fy mhlentyn / mherson ifanc fyd i'r ysgol?

Weithiau gall dewis lleoliad ar gyfer eich plentyn / person ifanc fod yn un o'r pethau anoddaf y bydd angen i chi ei wneud. Bydd y rhan fwyaf o blant / bobl ifanc yn gorffen yr ysgol gynradd ac yn symud i'r ysgol gyfun yn eu hardal leol. Rhaid i bob lleoliad wneud addasiadau i helpu plant / pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at y cwricwlwm.

Mae pontio'n allweddol wrth symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Bydd mwyafrif y dysgwyr yn derbyn eu haddysg mewn ysgol yn eu hardal leol.

Mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) sydd yno i gefnogi'ch plentyn / person ifanc ar ei daith ddysgu.

Sut rydw i'n dewis ysgol?

Mae'n bwysig dewis lleoliad sy'n addas ar gyfer eich plentyn / person ifanc. Dyma rai perthau i'w hystyried:

  • Gallwch ddechrau drwy chwilio am ysgolion sy'n agos atoch ar-lein, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ysgolion Abertawe yma
  • Ewch i ymweld ag o leiaf ddau leoliad fel bod gennych rywbeth i'w gymharu.
  • Oes gan y lleoliad yr holl bethau sydd eu hangen ar eich plentyn / person ifanc yn barod?
  • Ceisiwch gadw meddwl agored nes eich bod wedi edrych ar yr holl bosibiliadau.
  • Siaradwch ag unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'ch plentyn / person ifanc, gallai'r rhain gynnwys athrawon arbenigol neu'r seicolegydd addysg.
  • Pa ysgolion y bydd ffrindiau eich plentyn / person ifanc yn eu mynychu?
  • Beth yw'r trefniadau yn ystod amser cinio?
  • Beth yw'r disgwyliadau o ran gwaith cartref, sut bydd eich plentyn / person ifanc yn cael cefnogaeth?

Beth y dylwn i ei ystyried wrth ymweld ag ysgol?

Dyma rai cwestiynau efallai yr hoffech eu gofyn. Byddwch yn meddwl am bethau eraill sy'n bwysig i chi a'ch teulu. Os ydych yn mynd i ymweld â mwy nag un ysgol, efallai yr hoffech chi wneud rhai nodiadau i'ch helpu i gofio pethau.

  • Faint o ddisgyblion fyddai yn nosbarth fy mhlentyn / mherson ifanc?
  • Faint o blant / bobl ifanc ag anghenion ychwanegol sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd?
  • Ydy'r ysgol yn hwyluso mynediad i gadeiriau olwyn?
  • Beth fydd yr ysgol yn ei wneud i sicrhau bod yr holl staff yn gwybod am anghenion unigol fy mhlentyn / mherson ifanc?
  • Sut mae'r ysgol yn trefnu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer plant / pobl ifanc y mae ei hangen arnynt?
  • Sut byddaf i'n rhan o'r cynllunio ar gyfer anghenion fy mhlentyn / mherson ifanc ac wrth adolygu'i gynnydd?
  • Sut bydd y plant eraill / bobl ifanc yn cael eu helpu i ddeall anghenion fy mhlentyn / mherson ifanc?
  • Sut bydd fy mhlentyn / mherson ifanc yn cael ei helpu i ymgartrefu yn yr ysgol a gwneud ffrindiau?
  • Sut byddaf yn cael y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol?
  • Sut bydd yr ysgol yn sicrhau bod fy mhlentyn / mherson ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan ym mhob un o feysydd y cwricwlwm ac mewn gweithgareddau allgyrsiol (fel clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol a gwibdeithiau).

Cofiwch, gall eich profiad chi o fywyd ysgol effeithio ar y ffordd rydych chi'n gweld yr ysgol. Ceisiwch roi'r teimladau hyn o'r neilltu ac edrych ar yr ysgol o safbwynt eich plentyn / person ifanc.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am wneud cais am le yn yr ysgol ar ein tudalennau derbyniadau ysgol.

Ydy Cyngor Abertawe yn darparu cludiant i fy mhlentyn / mherson ifanc fynychu ei ysgol gynradd?

Mae'r cyngor yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i ddysgwyr ag ADY lle'r ydym wedi penderfynu ar leoliad sy'n bellach na'r pellter statudol (3 milltir neu fwy ar gyfer ysgolion uwchradd). Ni fydd lleoliad sy'n seiliedig ar ddewis rheini yn gymwys am gludiant rhwng y cartref a'r ysgol.

Lle nad yw plentyn / person ifanc yn gymwys i gael cludiant am ddim ac mae rhieni / gofalwyr yn barnu bod yr amgylchiadau'n gwbl eithriadol, gellir gwneud cais am gymorth gyda chludiant.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am gludiant i'r ysgol ar ein tudalennau cludiant ysgol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023