Casgliadau ailgylchu i fusnesau
O dan y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, o 6 Ebrill 2024 mae gan bob busnes ofyniad cyfreithiol i ailgylchu. Gallwn eich helpu i gydymffurfio.
Gallwch ailgylchu'r canlynol gyda ni:
- gwastraff bwyd a gynhyrchir gan fangre sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
- papur a cherdyn
- cardbord
- gwydr
- metel tuniau a chaniau
- plastig
- cartonau a phecynnu tebyg eraill (y cyfeirir atynt o hyn allan ar y cyd fel 'cartonau')
- cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (WEEE) heb ei werthu
- tecstilau heb eu gwerthu.
Gwastraff bwyd
Mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu mewn bin olwynog 360 litr. Nid ydym yn caniatáu i chi roi gwastraff bwyd yn y biniau gwastraff cyffredinol. Dylech ddefnyddio'n sachau leiner ar gyfer y cadis. Gellir archebu'r sachau leiner gwastraff bwyd ar-lein.
Papur a cherdyn
Cesglir gwastraff papur a cherdyn o fin olwynog 240 litr neu o sachau clir rhagdaledig. Gellir archebu'r sachau clir ar gyfer ailgylchu papur a cherdyn ar-lein..
Cardbord
Gellir casglu cardbord o fin olwynog 1,100 litr neu gallwch brynu sticeri er mwyn rhoi cardbord rhydd ar ochr y ffordd i'w gasglu. Gallwch archebu sticeri (pecyn o 20) ar-lein.
Gwydr
Gellir darparu biniau olwynog 1,100 litr a 240 litr neu gadi 50 litr ar gyfer casgliadau gwydr i'w hailgylchu.
Tuniau metel a chaniau
Gellir darparu biniau olwynog 240 litr neu gadi 50 litr ar gyfer casgliadau tun a chaniau cymysg i'w hailgylchu.
Plastig
Rydym bellach yn gallu cynnig gwasanaeth ailgylchu plastig. Gellir gwneud casgliadau o finiau olwynog 240 litr neu fag ailddefnyddadwy 120 litr. Cysylltwch â'r Tîm Masnachol am ragor o wybodaeth.
Cartonau
Rydym bellach yn gallu cynnig gwasanaeth ailgylchu cartonau. Cysylltwch â'r Tîm Masnachol am ragor o wybodaeth.
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) a thecstilau heb eu gwerthu
Mae WEEE a thecstilau heb eu gwerthu yn wasanaeth ar gais, felly bydd angen i chi drefnu casgliad bob tro y bydd angen i'r eitemau hyn gael eu cymryd oddi ar eich safle. Cysylltwch â'r Tîm Masnachol am ragor o wybodaeth.
Ni ellir defnyddio gwasanaethau casglu domestig i gael gwared ar eich ailgylchu. Mae'n rhaid i bob casgliad ailgylchu fynd drwy'r gwasanaeth casglu Gwastraff Masnachol.