Addysg ddewisol yn y cartref - am addysg ddewisol yn y cartref
Ar ôl derbyn hysbysiad fod plentyn i gael ei addysgu yn y cartref, bydd yr ALl yn ceisio cysylltu â'r rhieni/gwarcheidwad i drafod ei ddarpariaeth.
Cyswllt cychwynnol
Monitro parhaus
Asesu effeithlonrwydd ac addasrwydd yr addysg a ddarperir
Plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Diogelu a hyrwyddo lles y plentyn
Darparu gwybodaeth a chefnogaeth
Cyswllt cychwynnol
Ar ôl derbyn hysbysiad fod plentyn i gael ei addysgu yn y cartref, bydd yr ALl yn ceisio cysylltu â'r rhieni/gwarcheidwad i drafod ei ddarpariaeth.
Dylid cynnal y cyfarfod hwn o fewn pedair wythnos ysgol o'r hysbysiad. Dylai'r cyfarfod ddigwydd mewn lleoliad a gytunwyd. Dylid rhoi'r cyfle i'r plentyn fod yn y cyfarfod, neu fel arall dylid rhoi cyfle iddo fynegi ei farn. Yn ystod y cyfarfod, dylai rhieni a chynrychiolydd yr ALl gytuno ar batrwm o gyswllt yn y dyfodol rhyngddynt.
Bydd y cyfarfod cychwynnol yn egluro rôl yr ALl wrth fonitro'r ddarpariaeth, yn ogystal â gwneud yn glir i'r rhieni, os ydynt yn penderfynu addysgu eu plentyn yn y cartref, eu bod nhw'n derbyn yr holl gyfrifoldeb ariannol dros addysg eu plentyn, gan gynnwys cost unrhyw arholiadau cyhoeddus, a bydd y plentyn yn parhau i dderbyn addysg addas tan ddiwedd y cyfnod "addysg orfodol" (dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fydd y plentyn yn 16 oed).
Monitro parhaus
Mae gan yr ALl rwymedigaeth statudol i sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol yn yr ALl yn derbyn addysg addas yn yr ysgol neu fel arall ac nad yw'n blentyn sy'n colli addysg.
Cynigir cyfarfod cychwynnol ag aelod o'r Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref i drafod y cynllun addysg ac unrhyw gyngor neu gefnogaeth angenrheidiol o fewn 4 wythnos o ddadgofrestru o'r ysgol.
Cysylltir â'r rhiant drwy e-bost / dros y ffôn i drefnu cyfarfod at y diben hwn. Cynhelir cyfarfodydd mewn lleoliad y cytunir arno gan bawb. Wedi hynny, bydd Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref yr ALl yn cysylltu â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd hyn yn darparu cyfle i gynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor yn ogystal â gwrando ar farn y plentyn a'r teulu ac ymateb iddi.
Mae gan yr ALl ddyletswydd i wneud trefniadau er mwyn nodi plant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn derbyn addysg addas. Gofynnir i rieni sy'n addysgu eu plant y tu allan i'r ysgol ddarparu gwybodaeth am yr addysg y mae eu plant yn ei dderbyn.
Wrth asesu effeithlonrwydd ac addasrwydd addysg a ddarperir drwy addysg yn y cartref, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried bod darpariaeth addysg rhieni'n adlewyrchu amrywiaeth o ymagweddau a diddordebau. Efallai y bydd rhai rhieni'n dymuno darparu addysg mewn ffordd ffurfiol a strwythuredig ac efallai y bydd rhai'n penderfynu rhoi darpariaethau mwy anffurfiol sy'n ymateb i ddiddordebau'r plentyn sy'n datblygu.
Yn unol â chanllawiau LlC, mae'r ALl yn gofyn bod rhieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref yn ddewisol yn ymateb i gyswllt. Os bydd rhieni'n dewis peidio â rhoi gwybodaeth i'r ALl am yr addysg a ddarperir gartref, yna bydd yn rhaid i'r ALl ystyried a yw'n ymddangos bod y rhieni'n cyflawni'u dyletswyddau.
O dan Adran 437(1) Deddf Addysg 1996, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i weithredu os yw'n ymddangos nad yw rhieni'n darparu addysg addas.
Os yw'n ymddangos nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol yn derbyn addysg addas, gall yr ALl gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rhiant ddarparu tystiolaeth bod y plentyn yn derbyn addysg addas. Os na dderbynnir ymateb o fewn 15 niwrnod, gall yr ALl gyhoeddi gorchymyn mynychu'r ysgol i sicrhau y darperir addysg addas.
Os bydd y rhieni ar unrhyw adeg yn darparu gwybodaeth sy'n bodloni'r ALl bod addysg addas yn cael ei darparu, yna ni fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.
Efallai y bydd angen rhywfaint o help a chefnogaeth ar rieni ac mae angen i'r ALl roi cyfle i rieni gyflwyno tystiolaeth o'r profiad dysgu y mae plentyn yn ei gael.
Er mwyn cyflawni'r nod o sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref yn derbyn addysg effeithlon ac addas, mae'r ALl yn annog cydweithio a chyfathrebu'n weddol reolaidd.
Amcan cyntaf yr ALl yw helpu rhieni i lwyddo yn yr hyn maent wedi penderfynu ei wneud.
Asesu effeithlonrwydd ac addasrwydd yr addysg a ddarperir
Mae sefyllfa'r awdurdod lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref yn unol ag un Llywodraeth Cymru a CCUHP sef mai nod addysg addas yw sicrhau bod plentyn yn gallu datblygu'r sgiliau i gymryd rhan mewn cymdeithas a gweithredu ynddi.
Wrth ystyried darpariaeth addysg y rhieni, efallai bydd yr awdurdod lleol yn disgwyl i'r ddarpariaeth gynnwys y nodweddion canlynol:
- eang - dylai gyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ddisgyblion.
- cytbwys - rhaid treulio amser digonol ar bob rhan i wneud ei gyfraniad arbennig, ond nid cymaint fel y gall darfu ar feysydd eraill o'r addysg.
- perthnasol - dylid addysgu pynciau er mwyn iddynt gael eu defnyddio ar gyfer profiadau personol y disgybl ac yn ei fywyd fel oedolyn, gan roi pwyslais digonol ar agweddau ymarferol.
- gwahaniaethol - mae angen i'r hyn a addysgir a sut caiff ei addysgu gyd-fynd â galluoedd a dawn y plentyn ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol y gall fod gan y plentyn..
Rhai nodweddion posib y gall addysg addas eu darparu, eu datblygu neu eu cynnwys:
- Sgiliau iaith, llythrennedd a rhifedd.
- Cyfranogiad cyson gan rieni neu ofalwyr pwysig eraill.
- Ymateb i anghenion y plentyn ac er ei fudd gorau, gan ystyried meysydd dysgu sydd o ddiddordeb i'r plentyn, ac sy'n hyrwyddo potensial y plentyn Sicrhau bod gan y plentyn gyfleoedd i gael amrywiaeth resymol eang o brofiadau dysgu.
- Rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol er mwyn helpu'r plentyn yn nes ymlaen yn ei fywyd a'i alluogi i fod yn ddinesydd rhagweithiol.
- Sicrhau bod y plentyn yn cael cyfleoedd i fagu sgiliau sylfaenol (gan ystyried unrhyw anghenion addysgol arbennig/anghenion dysgu ychwanegol).
- Athroniaeth neu ethos lle mae rhieni'n dangos ymrwymiad, brwdfrydedd a chydnabyddiaeth o anghenion, agweddau ac uchelgeisiau'r plentyn.
- Cyfleoedd i'r plentyn gael ei ysgogi gan ei brofiadau dysgu.
- Cyfranogiad mewn sbectrwm eang o gyfleoedd a gweithgareddau dysgu sy'n briodol i gam datblygu'r plentyn.
- Mynediad at adnoddau a deunyddiau priodol.
- Cyfleoedd i feithrin llythrennedd digidol.
- Cyfleoedd am lefel briodol o weithgarwch corfforol a chwarae.
- Cyfleoedd i ryngweithio â phlant ac oedolion eraill.
Nid oes disgwyliad y bydd addysgwyr cartref yn:
- Addysgu yn ôl y Cwricwlwm i Gymru.
- Dilyn amserlen.
- Trefnu bod y cartref yn cael ei ddodrefnu/offeru i safon benodol.
- Marcio gwaith a wneir gan eu plentyn.
- Addysgu yn ystod oriau penodol.
- Meddu ar unrhyw gymwysterau penodol.
- Cyflwyno'r un maes llafur ag unrhyw ysgol.
- Gwneud cynlluniau manwl o flaen llaw.
- Cadw at oriau, diwrnodau neu dymhorau ysgol.
- Rhoi gwersi ffurfiol.
- Atgynhyrchu'r math o gymdeithasu a geir yn yr ysgol rhwng grwpiau cyfoedion.
- Cyd-fynd â safonau ysgol sy'n benodol i oedran y plentyn.
Plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae'r un weithdrefn yn berthnasol os oes gan blentyn ddatganiad o AAA neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ac mae'n mynychu ysgol brif ffrwd.
Fodd bynnag, os yw plentyn yn mynd i ysgol arbennig dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol, ac mae rhiant yn dymuno'i addysgu yn y cartref, dylai ysgrifennu i'r ysgol gan ddweud ei fod yn dymuno addysgu ei blentyn mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol. Bydd yr ysgol yn hysbysu'r ALl o hyn ond ni fydd yn tynnu enw'r plentyn oddi ar y gofrestr nes ei fod wedi derbyn cytundeb gan yr Awdurdod Lleol.
Mae'n bwysig bod rhieni'n ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol i ddweud wrthynt am eich penderfyniad i addysgu yn y cartref. Bydd hyn yn eu galluogi i gynnig cyngor wrth gyflawni nodau CDU.
Yn y naill achos neu'r llall, mae'n rhaid bod yr addysg a ddarperir yn bodloni nodau'r datganiad AAA neu amcanion y CDU. Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol am hyd y datganiad/cynllun datblygu unigol. Bydd hyn yn nodi a yw geiriad y datganiad/cynllun datblygu unigol yn dal i fod yn briodol, a oes angen iddo aros ar waith ac yw'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn diwallu anghenion y plentyn. Bydd angen i'r ALl fod yn fodlon bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei chyflwyno. Lle nad yw rhieni'n gallu darparu'r holl ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer anghenion y plentyn, bydd angen i'r ALl ystyried sut y gellir sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Mewn rhai achosion, gallai fod drwy ddarpariaeth ychwanegol a drefnir gan yr ALl i ategu'r addysg sy'n cael ei darparu gan y rhiant gartref, neu gallai fod yn ddarpariaeth hyfforddiant i helpu'r rhiant i gyflwyno'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gartref. Mewn achosion eraill, efallai bydd angen i'r ALl arfer ei swyddogaethau addysg i sicrhau addysg i'r plentyn mewn ysgol benodol.
Mae gan rieni hawl i apelio o hyd i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC) Croeso i Dribiwnlys Addysg Cymru (llyw.cymru).
Pan ddaw ALl i wybod, neu fel arall pan fo'n ymddangos i'r ALl y gall fod gan blentyn sy'n cael ei addysgu yn y cartref (heblaw am blentyn sy'n derbyn gofal) y mae'n gyfrifol amdano anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae'n rhaid i'r ALl benderfynu p'un a oes gan y plentyn ADY neu beidio. Os yw'n penderfynu bod gan y plentyn ADY, mae'n rhaid iddo baratoi a chynnal CDU. Dylai'r ALl sy'n paratoi neu'n adolygu'r CDU weithio gyda'r plentyn a rhiant y plentyn i nodi'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol a'i sicrhau. Mae hyn yn cynnwys nodi'r math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y plentyn a pha un a fydd y rhiant yn gallu'i chyflwyno (naill ai'n uniongyrchol neu drwy drefnu i rywun arall ei chyflwyno).
Diogelu a hyrwyddo lles y plentyn
Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd dan Adran 175(1) Deddf Addysg 2002 i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.
Nid yw dewis rhieni i addysgu eu plentyn/plant gartref yn lliniaru cyfrifoldeb yr awdurdod lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn.
Mae lles pob plentyn ac amddiffyn pob plentyn, y rheini sy'n mynychu'r ysgol a'r rheini sy'n cael eu haddysgu drwy ddulliau eraill, o'r pwys mwyaf ac yn gyfrifoldeb i'r gymuned gyfan. Yn yr un modd â phlant sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol, efallai y ceir materion amddiffyn plant mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Os daw unrhyw bryderon amddiffyn plant i'r amlwg wrth gyfathrebu â phlant a theuluoedd, bydd y pryderon hyn yn cael eu cyfeirio i'r gwasanaethau priodol, gan ddefnyddio protocolau sefydledig.
Gellir hysbysu'n hasiantaethau partner, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Tai, Gyrfa Cymru a'r Heddlu, eich bod yn addysgu eich plentyn/plant y tu allan i'r system ysgolion.
Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) fel sail i'w holl waith dros blant a phobl ifanc ac wedi'i roi ar waith.
Darparu gwybodaeth a chefnogaeth
Yn ôl y gyfraith, nid oes gorfodaeth gyfreithiol ar yr awdurdod lleol i ddarparu unrhyw adnoddau i blant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.
Fodd bynnag, byddwn yn:
- darparu cyngor a chefnogaeth ynghylch materion cwricwlaidd;
- darparu gwybodaeth am sefydliadau sy'n cefnogi addysgwyr cartref;
- darparu gwybodaeth i gael mynediad at Gyrfa Cymru;
- darparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau cefnogi.
Gall plentyn sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref gael mynediad at wasanaethau cyffredinol megis Gyrfa Cymru, gwasanaethau ieuenctid, cwnsela a gwasanaethau sgrinio ac imiwneiddio o hyd.
Os bydd rhiant yn e-bostio electivehomeeducation@abertawe.gov.uk gellir ei gyfeirio i wybodaeth a chymorth ynghylch yr uchod a gwasanaethau cymorth eraill sy'n benodol i anghenion y teulu.