Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant FIS - amodau a thelerau hyfforddiant

Mae'r amodau a thelerau'n berthnasol i bob cynrychiolydd sy'n mynychu'r cyrsiau hyfforddiant.

Sylwer ar y canlynol:

  • Codir ffi o £20 y cynrychiolydd ar gyfer yr holl hyfforddiant gorfodol, sy'n daladwy wrth gadw lle ar y cwrs. Bu'n rhaid cyflwyno hyn i'n galluogi i barhau i gynnig hyfforddiant ar yr hyn sy'n parhau'n gyfradd â chryn gymhorthdal.
  • Os ydych chi'n canslo hyd at 48 awr cyn dyddiad yr hyfforddiant, cedwir lle i chi ar y cwrs nesaf sydd ar gael.
  • Cedwir lle ar y cyrsiau ar sail y cyntaf i'r felin.
  • Cyfyngir lleoedd i DDAU fynychwr y lleoliad, oni bai y nodir fel arall.
  • Caiff llythyrau cadarnhau eu hanfon drwy e-bost ar yr adeg y cedwir lle.
  • Ni ddarperir bwyd a lluniaeth yn y cyrsiau hyfforddiant felly cynghorir cynrychiolwyr i ddod â'u lluniaeth eu hunain.

 

Bydd disgwyl i gynrychiolwyr sy'n mynychu cyrsiau hyfforddiant:

  • Fod yn gwrtais, yn barchus ac yn onest ar bob adeg.
  • Cyrraedd mewn pryd ac aros am barhad y cwrs. Ni fydd yn dderbyniol gofyn am ganiatâd hwylusydd y cwrs i adael yn gynnar ar ddiwrnod yr hyfforddiant.
  • Cymryd rhan, cyfrannu at y cwrs a dangos diddordeb yn y cynnwys.
  • Gwneud unrhyw gwynion swyddogol mewn perthynas â'r rhaglen hyfforddi yn ysgrifenedig. Dylai cwynion fod yn ffeithiol, yn gywir ac yn adeiladol eu natur a dylid eu hanfon ymlaen i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd o fewn 10 niwrnod i'r digwyddiad.
  • Sicrhau bod eu cyfarpar TG yn gydnaws â'r llwyfan ar-lein sawl diwrnod cyn iddynt gychwyn unrhyw hyfforddiant rhithwir.
  • Cadw'r camera ymlaen pan fydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno.
  • Sicrhau eu bod wedi darllen unrhyw ddeunydd a ddarparwyd cyn y cwrs, cyn i'r cwrs ddechrau.

Dylech wybod mai'r amserau a nodwyd ar eich llythyr cadarnhad yw'r isafswm amserau cyfranogi sy'n ofynnol gan y cyrff dyfarnu er mwyn dyfarnu tystysgrifau, ac mae gan yr hyfforddwyr yr awdurdod i wrthod mynediad i gynrychiolwyr sy'n cyrraedd mwy na 10 munud yn hwyr.

Felly, mae gan hyfforddwyr yr awdurdod i wrthod rhoi tystysgrifau i gynrychiolwyr sy'n gadael mwy na 15 munud cyn yr amser gorffen trefnedig.

 

Lleoliadau gofal plant - Disgwylir i warchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, grwpiau chwarae, clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol a grwpiau tebyg:

  • Cydymffurfiwch gyda'r amodau a thelerau.
  • Llenwch y ffurflen Anghenion a Dadansoddiad o Hyfforddiant pan gyhoeddir.
  • Canslo 48 awr cyn dyddiad dechrau'r cwrs. 
  • O ran cyrsiau gorfodol, gytuno i ollwng y ffi o £20 am beidio â hysbysu diffyg presenoldeb a chanslo lle/lleoedd yn hwyr.
Close Dewis iaith