Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd - rhaglen hyfforddi
Cynigir cyrsiau hyfforddi'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i leoliadau gofal plant fel gofalwyr plant, meithrinfeydd dydd, grwpiau chwarae, clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol a grwpiau o'r un natur.
Comisiynir yr holl wasanaethau'n fewnol ac yn allanol ac, er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y rhaglen hyfforddi'n gweithredu'n effeithlon, nid yw'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn gyfrifol am unrhyw fater sy'n ymwneud yn uniongyrchol a hwyluswyr a lleoliadau cyrsiau.
Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) i gael cyngor neu arweiniad pellach ar faterion gofal plant eraill. Croesewir sylwadau am eich profiadau hyfforddi a'ch dymuniadau am hyfforddiant yn y dyfodol.
- Caiff yr holl gyrsiau hyn eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin.
- Caiff nifer y lleoedd ei gyfyngu i DDAU unigolyn y lleoliad.
- Os digon o rybudd am absenoldeb (h.y. 10 niwrnod gwaith), ni chodir tal.