Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025 - Amodau a thelerau'r grant

Amodau a thelerau'r grant

mae'r 'Grŵp' yn cyfeirio at y grŵp sy'n cael ei gyfyngu gan yr amodau a thelerau hyn ac sy'n derbyn y grant;

mae'r 'Prosiect' yn cyfeirio at y Prosiect y gwnaed cais am y grant hwn ar ei gyfer ac y cytunwyd iddo fel y nodwyd yn ffurflen gais y Grŵp (y gellir ei amrywio yn ôl yr amodau a thelerau hyn);

ystyr 'y Gronfa' yw Cynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025 a lle bo'n briodol bydd yn cynnwys cyfeiriad at y Panel Asesu, gweithwyr awdurdodedig ac asiantiaid y cynlluniau grant.

 

1. Yn gyffredinol

a)  Bydd disgwyl i'r grŵp sy'n derbyn arian o Gynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024-2025 dderbyn y cynnig yn ffurfiol yn ysgrifenedig (mae e-bost yn dderbyniol) a rhaid iddo hefyd lofnodi'r amodau a thelerau.

b)  Wrth dderbyn cyllid o Gynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024-2025, mae'r grŵp yn cytuno i ymrwymo i ddarparu lleoedd gofal plant am o leiaf 5 mlynedd o'r dyddiad y telir yr arian grant.

c)  Os bydd y grŵp yn penderfynu peidio â derbyn plant sy'n cael eu hariannu drwy raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yna bydd yn atebol am ad-dalu'r holl arian neu ran o'r Grant Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar. Ni fydd hyn yn berthnasol os gall yr ymgeisydd ddangos yn glir y byddai ef/hi yn croesawu plant dan y rhaglenni hyn ond nad oes unrhyw leoedd ar gael.

d)  Rhaid defnyddio'r grant ar gyfer y Prosiect yn unig a chan y Grŵp yn unig ac yn unol â manylion y ffurflen gais yn unig (a'r amodau a thelerau hyn).  Os yw'r cynnig yn wahanol i'r manylion yn eich cais, mae'r amrywiadau wedi'u nodi yn eich llythyr cynnig.

e)  Ni allwch wneud unrhyw newidiadau i'r Prosiect na'i weithredu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Gronfa.

f)  Os rhoddwyd y grant i brynu cyfarpar neu asedau eraill, bydd y grŵp yn cwblhau cofrestr asedau ac ni all werthu'r asedau hynny heb ganiatâd y Gronfa ymlaen llaw.

g)  Ni fydd y grant yn cynyddu os bydd gorwariant ar y Prosiect.

h)  Rhaid nodi'r grant ar wahân fel cronfa gyfyngedig yng nghyfrifon blynyddol y Grŵp ac ni ddylid ei gynnwys dan gronfeydd cyffredinol.  NID oes yn rhaid i'r Grŵp agor cyfrif banc/cymdeithas adeiladu newydd.

i)  Rhaid gwario'r arian grant a chwblhau unrhyw waith cyn 31 Mawrth 2025.

j)  Os bydd y Grŵp yn gwario llai na'r grant cyfan ar y Prosiect, rhaid dychwelyd y swm nas gwariwyd i'r Gronfa'n syth.

k)  Nid yw dyfarnu grant ar gyfer astudiaeth dichonoldeb neu brosiect peilot yn cynrychioli unrhyw ymrwymiad gan y Gronfa i ddyfarnu grant ar gyfer unrhyw brosiect dilynol.

l)  Ni ddylai'r Grŵp, heb gytundeb ysgrifenedig y Gronfa, newid ei gyfansoddiad o ran diben, neu unrhyw newid arwyddocaol arall, yn ystod cyfnod y grant.

m)  Ni ellir talu am unrhyw wariant cyn dyddiad y llythyr cynnig o'r grant, oni bai y cytunir arno gan y Prosiect.

n)  Mae'n rhaid i'r Grŵp roi gwybod i ni am unrhyw gynigion ariannu ar gyfer y Prosiect a dderbynnir gan unrhyw un arall sy'n dyblygu'r cyllid a ddarperir gan Gynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024-2025.

o)  Nid yw'r Gronfa'n atebol am golledion a geir oherwydd unrhyw oedi wrth dalu'r grant.

p)  Y Prosiect fydd yn gyfrifol am unrhyw ffïoedd a godir pan na chytunir ar waith cyfalaf ac ni chaiff ei dderbyn fel tâl i'r Grŵp a/neu Gynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024-2025.

2. Cyhoeddusrwydd

a)  Rhaid cydnabod y Gronfa sy'n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru mewn unrhyw lenyddiaeth a gohebiaeth ar gyfryngau cymdeithasol fel cylchlythyrau a dylid defnyddio brandio perthnasol Llywodraeth Cymru.

b)  Rhaid i'r Grŵp gydnabod cefnogaeth y grant hwn yn ei adroddiad blynyddol a'r cyfrifon sy'n cynnwys cyfnod y prosiect hwn.

c)  Dylai'r Grŵp gydnabod cefnogaeth y Gronfa mewn unrhyw erthyglau, cyhoeddusrwydd neu ddatganiadau i'r wasg sy'n cyfeirio at y Prosiect.

d)  Dylai unrhyw gyhoeddiad a ariennir neu a ariennir yn rhannol gan y Gronfa gynnwys cydnabyddiaeth o gefnogaeth y Gronfa.

e)  Lle bo modd, dylid cynnwys logos ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe (ar gael ar gais). Os nad yw hyn yn bosib am reswm da, dylai'r Grŵp gynnwys y datganiad canlynol:

'Cefnogir (Cefnogwyd) y (prosiect / grŵp / cyhoeddiad) hwn gan 'Gynllun Grantiau Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2022-2025'

f)  Dylai'r Grŵp gadw cofnod o'r holl ddogfennau cyhoeddusrwydd, datganiadau i'r wasg, adroddiadau etc. fel tystiolaeth.

g)  Gall y Gronfa ddefnyddio enw'r Grŵp a'i Brosiect yn neunydd cyhoeddusrwydd y Gronfa.  Byddwn yn sensitif i sefyllfaoedd lle bo cyfrinachedd yn fater penodol.

3. Monitro

a)  Rhaid i'r Grŵp gadw'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â dyfarnu'r grant am o leiaf saith mlynedd. Gall dogfennau perthnasol gynnwys anfonebau, prawf o daliad, derbynebau, cyfriflenni banc, taflenni amser staff ac unrhyw ddogfennaeth ategol arall i nodi'r holl wariant a hawlir ar y prosiect.

b)  Bydd y Grŵp yn monitro llwyddiant y Prosiect yn erbyn y targedau y cytunwyd arnynt ac yn cwblhau ffurflenni monitro rheolaidd gan gynnwys ffurflen diwedd grant.  Bydd y Gronfa'n darparu'r ffurflenni.

c)  Rhaid i'r Grŵp ddarparu copïau o dderbynebau neu brawf prynu arall am gyfanswm gwerth y grant a ddyfarnwyd sy'n dangos sut mae'r grant wedi cael ei ddefnyddio.  Rhaid cyflwyno'r rhain gyda'r ffurflenni monitro a gwblhawyd.

d)  Gellir gofyn i'r Grŵp ddarparu gwybodaeth ariannol ychwanegol neu unrhyw wybodaeth arall i helpu'r Gronfa i fonitro a gwerthuso'r prosiect a'i raglen grant.

e)  Rhaid i'r grŵp fod yn ymwybodol y bydd gwybodaeth fonitro a roddir yn cael ei rhannu drwy systemau cofnodi mewnol y Cyngor, gan gynnwys Craffu a'r Cyngor. Mae'r rhain yn gyfarfodydd cyhoeddus felly bydd yr wybodaeth a roddir yn gyhoeddus a gall y cyfryngau ei defnyddio.

4. Talu'r grant

a)  Bydd y grant yn cael ei dalu drwy system BACS.

b)  Gellir gwneud y taliad i gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu dan enw'r Grŵp yn unig.

5. Pryd telir y grant

a)  Yn dibynnu ar swm y dyfarniad a chymhlethdod y cynnig, bydd y Gronfa'n penderfynu a fydd taliad yn cael ei wneud ymlaen llaw, neu mewn rhandaliadau.

b)  Dim ond ar ôl derbyn Amodau a Thelerau wedi'u llofnodi ar gyfer unrhyw ddyfarniad y gwneir trefniadau ar gyfer talu grantiau.

6. Yr amgylchiadau y gellir atal neu ofyn i ad-dalu'r grant oddi tanynt (yn ôl disgresiwn y Gronfa)

a)  Os torrir unrhyw un o'r amodau a thelerau hyn.

b)  Os cafodd y ffurflen gais ei chwblhau'n anonest, yn anghywir neu'n gamarweiniol.

c)  Os bydd y Grŵp yn rhoi'r gorau i weithredu, yn cael ei ddiddymu neu'n mynd yn fethdalwr, neu'n cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr neu'r derbynnydd neu'n ymddiddymu, neu os gwneir trefniant gyda'i gredydwyr.

d)  Os bydd y Grŵp yn methu cwblhau'r Prosiect o fewn y cyfnod amser y cytunwyd arno.

e)  Os bydd aelodau'r corff llywodraethu, gwirfoddolwyr neu staff y Grŵp yn gweithredu'n anonest neu'n esgeulus o ran eu gwaith ar gyfer y Grŵp ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y Prosiect.

f)  Os canfyddir nad yw'r Grŵp yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau cyfle cyfartal yn ei arferion cyflogaeth ei hun ac wrth ddarparu ei wasanaethau a chael mynediad iddynt.

g)  Os canfyddir nad yw'r grŵp yn gweithredu'n unol â'i bolisïau ef a pholisïau a roddwyd iddo.

h)  Os bydd y Grŵp yn derbyn arian dyblyg gan unrhyw ffynhonnell arall ar gyfer yr un Prosiect.

i)  Os bydd y Grŵp yn methu darparu gwybodaeth fonitro pan y gofynnir amdani.

7. Amodau arbennig

Mae unrhyw amodau arbennig yn cael eu nodi yn y Llythyr Cynnig Grant.

8. Hyd y cytundeb grant hwn

Bydd amodau a thelerau'r Cytundeb Grant hwn yn bodoli ac yn parhau mewn grym fel a ganlyn:

  • Cyhyd â bod unrhyw gronfeydd y grant heb eu gwario.
  • Nes bod ffurflen Diwedd Grant foddhaol wedi'i derbyn.

Yn achos asedau cyfalaf a gafwyd gyda chymorth cronfeydd y grant, am fywyd arferol yr ased dan sylw.

Y lleoliad a / neu'r ysgol fydd yn gyfrifol am unrhyw ffïoedd a godir pan na chytunir ar waith cyfalaf ac ni fyddant yn cael eu derbyn fel tâl i'r rhaglen gyfalaf ac ni fydd unrhyw gyllid ar gael.