Toglo gwelededd dewislen symudol

Amodau a thelerau cytiau traeth Langland

Gall torri'r amodau a'r telerau hyn arwain at weddill yr archeb yn cael ei chanslo heb ad-daliad am unrhyw ran o'r ffi hurio.

1.  Dylid gwneud pob cais am gytiau ar-lein. Cyngor Abertawe, Gwasanaethau Diwylliannol, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE sy'n berchen ar y cytiau.  

2.   Mae'r ffïoedd a godir am ddefnyddio'r cytiau yn unol â'r rheini a bennir gan y cyngor o bryd i'w gilydd.  Rhaid talu'r holl ffïoedd i Gyngor Abertawe, Gwasanaethau Diwylliannol, wrth i'r cwt gael ei ddyrannu. Darperir derbynebau fel prawf o daliad.

3.   Mae trwydded cwt yn dechrau ac yn gorffen fel a ganlyn:

  • 30 Mawrth 2025 - 27 Mawrth 2026 (12 mis) -  £2204
  • 30 Mawrth 2025 - 31 Ionawr 2026 (10 mis) - £1889
  • 30 Mawrth 2025 - 28 Mehefin 2025 (3 mis) - £651
  • 1 Gorffennaf 2025 - 28 Medi 2025 (3 mis) - £651
  • 1 Hydref 2025 - 31 Ionawr  2026 (4 mis) - £446
  • 1 Hydref 2025 - 27 Mawrth 2026 (6 mis) -  £651

Ar fore eich cyfnod gosod byddwch yn derbyn e-bost gyda chôd ar gyfer clo cyfunrhif i gael mynediad i'ch cwt traeth. Mae'r côd yn arbennig ar gyfer eich cwt chi ac ni ellir ei ddefnyddio i gael mynediad i unrhyw gwt arall. Peidiwch â newid y côd na thynnu'r clo. Os bydd gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad i'ch cwt traeth gallwch gysylltu â chyngor Abertawe ar; 07970 322797 / 07900 702794 neu e-bostiwch Gosod.Parciau@abertawe.gov.uk

Ar ddiwedd eich cyfnod gosod sicrhewch fod eich cwt yn wag a bod y clo cyfunrhif wedi'i osod ar y drws.

4.   Mae'r cytiau i'w defnyddio yn ystod y dydd yn unig ac ni chaiff y trwyddedeion ddefnyddio unrhyw gwt yn ystod y nos na chaniatáu i unrhyw berson wneud hynny.

5.   Ni chaniateir i ddeiliad trwydded drosglwyddo, neilltuo neu is-osod y drwydded na defnyddiwr y cwt i unrhyw berson arall. Ni roddir trwydded i unrhyw berson ar gyfer mwy nag un cwt ac ni fydd hawl ganddo ddefnyddio mwy nag un cwt.

6.   Dylid defnyddio pob cwt yn unol â chyfarwyddiadau'r Rheolwr Strategol ar gyfer Hamdden, Partneriaethau, Iechyd a Lles gan weithredu'n unol â chyfarwyddiadau'r cyngor ac mae'r cyngor yn cadw'r hawl naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, neu drwy eu swyddog awdurdodedig priodol, i amrywio'r rheoliadau hyn.

7.  Rhaid cydymffurfio â'r is-ddeddfau sy'n ymwneud ag ymdrochi ac ar gyfer rheoleiddio'r traeth a'r blaendraeth. Wrth ymdrochi, rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Achubwyr Bywyd yr RNLI, ac ni chaniateir ymdrochi dan unrhyw amgylchiadau pan fydd baner perygl yr RNLI yn hedfan neu yn groes i gyfarwyddiadau gwasanaethydd traeth awdurdodedig.

8.   Ni chaiff trwyddedeion neu bersonau eraill sy'n defnyddio'r cytiau ollwng sbwriel na chaniatáu i unrhyw sbwriel gronni yng nghyffiniau eu cytiau, a rhaid iddynt ddefnyddio pob dull rhesymol o gadw'r cytiau a'r cyffiniau yn lân ac yn daclus.  Rhaid i bersonau o'r fath hefyd ymddwyn yn y fath fodd fel nad ydynt yn niwsans nac yn creu annifyrrwch i ddeiliaid cytiau cyfagos.

9.   Ni chaiff baneri nac atodiadau eraill eu harddangos na'u creu, ac nid ysgrifennir unrhyw eiriau, arwyddion na marciau ar y cytiau heb ganiatâd y cyngor.

10.  Rhybuddir trwyddedeion rhag gadael eitemau o werth yn y cytiau, ac ni fydd y cyngor yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a wnaed i nwyddau neu eitemau o unrhyw ddisgrifiad yn y cytiau neu o gylch y cytiau, neu am unrhyw anaf a wneir i bersonau wrth iddynt ddefnyddio'r cytiau.

11.  Bydd y trwyddedeion yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a wneir i'r cytiau a ddefnyddir gan y trwyddedeion neu gan bersonau sy'n eu defnyddio gyda chaniatâd y trwyddedeion.  Gwneir yn iawn am ddifrod o'r fath gan y cyngor ac adenillir y gost neu'r traul oddi wrth y trwyddedai cyfrifol.

12.  Ar ôl gadael y cytiau ar ddiwedd y cyfnod gosod, rhaid i'r trwyddedeion symud yr holl eitemau a nwyddau sy'n perthyn iddynt a gadael y cytiau mewn cyflwr glân a thaclus. Bydd methu â chydymffurfio yn arwain at daliadau cosb fel a bennir gan y cyngor.

13.  Ni chaniateir i ddeiliad trwydded ddefnyddio goleuadau artiffisial, gwresogydd, stôf neu lamp primus olew, sbirit neu nwy arall. Gwaherddir celfi a gosodiadau o natur fflamadwy iawn, megis gorchuddion cadeiriau. Gwaherddir tân gwyllt ac ni chaniateir smygu mewn unrhyw gwt. Gwaherddir y defnydd o farbeciws. Ni chaiff barbeciw ei gynnau o fewn y cwt, y porth neu ar y llwybr troed ger y cytiau. Bydd unrhyw un y ceir hyd iddo'n defnyddio barbeciw yn cael ei droi allan ar unwaith.

14.  Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i'w asiant fynd i mewn i'r cytiau ar unrhyw adeg sy'n rhesymol, i weld eu cyflwr a gwneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol.

15.  Gall y cyngor derfynu unrhyw drwydded ar unrhyw adeg, heb roi unrhyw reswm, ac wrth wneud hynny bydd yn dychwelyd cyfran o'r taliadau a dalwyd gan y trwyddedai (os talwyd cyfran o gwbl) mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw wedi dod i ben; ar yr amod, os yw'r rheswm dros derfynu unrhyw drwydded yn torri unrhyw un o'r rheoliadau hyn, ni ddychwelir unrhyw gyfran o'r taliadau a dalwyd.

16. Ni ellir trosglwyddo'r archeb hon i unrhyw berson arall ac eithrio yn ôl disgresiwn y cyngor. Rhaid gwneud y cais hwn i Gyngor Abertawe, Gwasanaethau Diwylliannol trwy ffonio 07970 322797 / 07900 702794 or email parks.lettings@swansea.gov.uk.

17. Ar ôl talu am archeb ni roddir unrhyw ad-daliadau am ganslo.

18. Nid yw ffïoedd parcio ceir yn gynwysedig yn ffi rhentu'r cwt. Rhaid talu'r rhain yn unol â'r prisiau sy'n cael eu harddangos.

19. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i drosglwyddo'r llogwr i gwt traeth arall.

20. Rhaid i'r llogwr fod yn ystyriol o denantiaid cytiau traeth cyfagos o ran y lle y tu allan i gytiau traeth, cerddoriaeth a sŵn ac ni fydd yn achosi niwsans nac yn caniatáu i bobl eraill fod yn niwsans yn y cwt traeth neu o'i gwmpas a fydd yn achosi annifyrrwch, anghyfleustra neu aflonyddwch i ddeiliaid cytiau cyfagos neu i'r cyhoedd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Ionawr 2025