Toglo gwelededd dewislen symudol

Amodau trwydded Gweithredwyr Hurio Preifat

  1. Gwnaed yr amodau hyn yn unol ag Adran 55 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Gall torri un neu fwy o'r amodau hyn arwain at atal, dirymu neu wrthod adnewyddu'r drwydded yn unol ag Adran 62 o'r Ddeddf honno a/neu erlyniad os bydd trosedd o dan gyfraith Trwyddedu Tacsis.
  2. Yn y drwydded hon: "y Ddeddf" yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. ystyr "y cyngor" yw Cyngor Abertawe. mae gan "swyddog awdurdodedig" yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. ystyr "y drwydded" yw trwydded gweithredwyr hurio preifat a roddwyd yn unol ag Adran 55 o'r Ddeddf. "y gweithredwr" yw deiliad y drwydded. ystyr "gweithredu" yw gweithredu cerbyd yn achos busnes yn unol â'r drwydded. mae "cerbyd hurio preifat" yn gerbyd sydd wedi'i drwyddedu ar hyn o bryd gan y cyngor o dan Adran 48 o'r Ddeddf. "rhif trwydded cerbyd" yw'r rhif a ddyrennir gan y cyngor i drwydded a roddir ar gyfer cerbyd hurio preifat a drwyddedir o dan Adran 48 o'r Ddeddf neu gerbyd hacni a drwyddedir o dan Adran 37 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847. "rhif trwydded gyrrwr" yw'r rhif a ddyrennir gan y cyngor i drwydded a roddir i'r gyrrwr o dan Adran 51 o'r Ddeddf neu, yn achos gyrrwr cerbyd hacni, o dan Adran 46 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847. "yr ardal" yw dinas a sir Abertawe.
  3. Wrth dalu'r ffi angenrheidiol, mae'r drwydded yn parhau mewn grym am flwyddyn, oni bai y caiff ei hatal neu ei dirymu gan y cyngora'r dyddiad dod i ben fydd diwrnod olaf y mis cyn y mis cyhoeddi.
  4. Ni chaniateir trosglwyddo trwydded y gweithredwr i unrhyw berson arall, oni bai ei fod wedi'i hadnewyddu, rhaid ei dychwelyd i'r swyddfa drwyddedu.
  5. Bydd deiliad y drwydded yn darparu i'r cyngor fanylion y fangre y bydd y busnes hurio preifat yn cael ei gynnal ohoni, a'r cyfleusterau a ddarperir ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau. Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol eraill. Yn benodol, rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod ganddo'r caniatâd cynllunio angenrheidiol.
  6. Ni fydd y gweithredwr yn gweithredu unrhyw gerbyd fel cerbyd hurio preifat yn yr ardal oni bai fod y cerbyd a'r gyrrwr wedi'u trwyddedu gan y cyngor.
  7. Ni fydd y gweithredwr yn gweithredu unrhyw gerbyd fel cerbyd hurio preifat os yw'r cyngor yn ei hysbysu nad yw'r cerbyd yn addas i'w ddefnyddio fel cerbyd hurio preifat.
  8. Ar gyfer pob contract hurio, bydd deiliad y drwydded yn darparu ac yn cadw cofrestr addas o archebion er mwyn cofnodi manylion y canlynol cyn dechrau pob taith: a. Dyddiad ac amser hurio. b. Y man casglu. c. Y cyrchfan. ch. Enw'r huriwr. d. Rhif trwydded y cerbyd a ddefnyddir. dd. Manylion y gyrrwr. e. Y pris a godir. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r archebion yn cael ei chofnodi'n gyfoes yn y gofrestr. Sylwer: mae'r arfer o gofnodi gwybodaeth yn ddiweddarach o nodiadau neu system ad hoc arall yn groes i'r amod hwn. Bydd y gofrestr ar ffurf llyfr wedi'i rwymo a bydd y tudalennau'n cael eu rhifo'n olynol neu, lle gwneir trefniadau boddhaol i'w harchwilio, bydd ar ffurf system archebu gyfrifiadurol. Pan fo'r cofnodion yn cael eu cadw ar fformat cyfrifiadurol, rhaid iddynt allu cael eu hargraffu'n rhwydd a'u darparu ar gais i swyddog awdurdodedig neu Swyddog Heddlu. Gall swyddog o'r fath eu cadw fel tystiolaeth, pe bai'r angen yn codi. Bydd y cofnodion yn cael eu cadw am gyfnod o chwe mis o ddyddiad y cofnod diwethaf.
  9. Bydd y gweithredwr yn darparu ac yn cadw cofrestr o Yrwyr Hurio Preifat ar ffurf llyfr rhwymedig, a fydd yn cael ei gadw am o leiaf deuddeng mis o ddyddiad y cofnod diwethaf. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn cael ei chofnodi: a. enw'r gyrrwr; b. rhif bathodyn a roddir gan yr awdurdod lleol; c. dyddiad y dechreuodd y gyrrwr weithio i'r gweithredwr; ch. dyddiad y peidiodd y gyrrwr â gweithio i'r gweithredwr.
  10. Bydd y gweithredwr yn darparu ac yn cadw cofrestr o gerbydau ar ffurf llyfr rhwymedig a fydd yn cael ei gadw am o leiaf deuddeng mis o ddyddiad y cofnod diwethaf. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn cael ei chofnodi: a. gwneuthuriad/model y cerbyd; b. rhif cofrestru'r cerbyd; c. rhif trwydded a rhoddir gan yr awdurdod lleol; ch. perchennog y cerbyd; d. dyddiad y dechreuodd y cerbyd weithredu o'r swyddfa; dd. dyddiad y peidiodd y cerbyd â gweithredu o'r swyddfa.
  11. Bydd y gweithredwr yn cadw'r Drwydded Cerbyd neu gopi ardystiedig ohoni mewn perthynas â phob cerbyd sy'n gweithredu o'r swyddfa a bydd yn cynhyrchu'r un peth ar unwaith pan fo'n ofynnol gan swyddog awdurdodedig neu Swyddog Heddlu.
  12. Bydd y gweithredwr yn cadw'r Drwydded Gyrrwr Hurio Preifat (a/neu'r Drwydded Gyrrwr Cerbydau Hacni lle bo hynny'n berthnasol) neu gopi ardystiedig ohoni mewn perthynas â'r holl yrwyr sy'n gweithredu o'r swyddfa a bydd yn cynhyrchu'r un peth pan fo'n ofynnol gan swyddog awdurdodedig neu Swyddog Heddlu.
  13. I'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y gweithredwr yn darparu gwasanaeth prydlon, effeithlon a dibynadwy a bydd yn gwneud popeth angenrheidiol yn benodol i sicrhau bod cerbydau'n cyrraedd y lle y cytunwyd arno gyda'r teithiwr yn brydlon.
  14. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod yr holl gerbydau a ddefnyddir yn lân, ac mewn cyflwr mecanyddol da.
  15. Rhaid i'r gweithredwr hysbysu Swyddfa Drwyddedu'r cyngor, yn ysgrifenedig, o fewn 3 diwrnod gwaith i unrhyw gollfarn neu rybudd am unrhyw drosedd.
  16. Rhaid i'r gweithredwr hysbysu Swyddfa Drwyddedu'r cyngor, yn ysgrifenedig, o fewn 3 diwrnod gwaith i unrhyw ddifrod i unrhyw gerbyd a gyflogir.
  17. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod copi o'r amodau hyn yn cael ei arddangos yn amlwg yn ei swyddfa i'w weld gan deithwyr.
  18. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod copi o'r amodau sydd ynghlwm wrth Drwyddedau Cerbydau Hurio Preifat yn cael ei arddangos yn amlwg yn ei swyddfa.
  19. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod hysbysiad yn cael ei arddangos yn amlwg yn ei swyddfa sy'n dangos rhif ffôn y Swyddfa Drwyddedu i'w ddefnyddio rhag ofn y bydd cwynion.
  20. Pan fydd swyddog o'r cyngor yn ymchwilio i gŵyn, bydd y gweithredwr yn darparu pob cymorth rhesymol i'r swyddog sy'n cynnal yr ymholiad.
  21. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod copi o'r amodau sydd ynghlwm wrth Drwyddedau Gyrwyr Hurio Preifat yn cael ei arddangos yn amlwg yn ei swyddfa.
  22. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau, drwy archwilio'r cerbyd ar ddechrau unrhyw sifft, fod yr arwyddion a'r plât yn cael eu harddangos ar y cerbyd yn y safleoedd cywir.
  23. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod gyrwyr a gyflogir, yn ogystal â gwisgo eu bathodynnau bob amser y byddant ar ddyletswydd, yn arddangos ail fathodyn ar wynebfwrdd y car fel ei fod yn amlwg i bob teithiwr.
  24. Ni fydd unrhyw waith atgyweirio i gerbydau, ac eithrio'r gwiriadau hylif arferol a gwaith cynnal a chadw, yn cael ei wneud ar y ffordd.
  25. Bydd y gweithredwr yn sicrhau, lle darperir unrhyw ardal neu ystafell aros i deithwyr, ei bod yn cael ei chadw ar wahân yn ffisegol i unrhyw ystafell weithrediadau arall.
  26. Bydd y gweithredwr, lle darperir ardal aros neu ystafell i'w ddefnyddio gan deithwyr neu ddarpar deithwyr yn: a. darparu seddi at ddefnydd y teithwyr neu ddarpar deithwyr hynny; b. sicrhau bod ystafell neu ardal o'r fath yn cael ei chadw'n lân, wedi'i gwresogi, ei hawyru a'i goleuo'n ddigonol; c. sicrhau bod y tu mewn a'r tu allan i'r safle yn cael eu cadw mewn cyflwr da er boddhad y swyddog awdurdodedig.
  27. Ni fydd y gweithredwr yn cynnal ei fusnes mewn modd sy'n achosi niwsans i unrhyw feddianwyr preswyl nac i unrhyw feddianwyr tir eraill.
  28. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod yr holl offer radio a ddefnyddir yn ystod ei fusnes yn cydymffurfio â'r canlynol: a. wedi'i gynnal mewn cyflwr da, cadarn bob amser; b. yn cael ei arolygu'n flynyddol ar draul y gweithredwr ac wedi'i ardystio i fod mewn cyflwr da gan gwmni ag enw da, a sicrhau bod tystysgrif o'r fath yn cael ei darparu i'w harchwilio ar gais gan swyddog awdurdodedig o'r cyngor neu unrhyw Swyddog Heddlu; a c. yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol ac yn cael ei gweithredu yn unol â hi.
  29. Ni fydd y gweithredwr yn gosod nac yn caniatáu defnyddio offer radio dwy ffordd mewn unrhyw gerbyd a weithredir ganddo yn ystod busnes heb hysbysu yswirwyr y cerbyd yn gyntaf, a chael eu cadarnhad wedi'i gymeradwyo ar dystysgrif yswiriant modur.
  30. Ni chaiff unrhyw offer radio band dinasyddion ei osod na'i ddefnyddio mewn unrhyw gerbyd. 
  31. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau, pan fo radio domestig neu gar neu set debyg wedi'i osod mewn cerbyd, na fydd ei weithrediad yn achosi annifyrrwch i bobl eraill oherwydd defnydd parhaus neu ailadroddus uchel.
  32. Ni fydd y gweithredwr yn defnyddio mewn cysylltiad â'i fusnes unrhyw offer radio sy'n gallu sganio mwy nag un amledd, ac ni chaniateir cludo unrhyw offer o'r fath mewn unrhyw gerbyd a weithredir ganddo na'i leoli ar unrhyw fangre a ddefnyddir ganddo mewn cysylltiad â'i fusnes.
  33. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau nad yw'r geiriau "tacsi", "tacsis" yn cael eu harddangos ar unrhyw gerbyd hurio preifat a weithredir ganddo.
  34. Ni fydd y gweithredwr yn achosi nac yn caniatáu i unrhyw gerbyd a weithredir ganddo gael ei ddefnyddio i'w hurio mewn unrhyw fan cyhoeddus oni bai ei fod yn gerbyd hacni trwyddedig.
  35. Ni fydd y gweithredwr yn achosi nac yn caniatáu i unrhyw gerbyd a weithredir ganddo gael ei ddefnyddio yn groes i unrhyw ofynion neu ddarpariaethau cyfreithiol.
  36. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod unrhyw hysbysebion sy'n ymwneud â'i fusnes a arddangosir ar unrhyw gerbyd hurio preifat a weithredir ganddo yn cydymffurfio â Pholisi Hysbysebu'r cyngor.
  37. Wrth weithredu cerbyd hacni fel cerbyd hurio preifat, bydd y gweithredwr yn cydymffurfio â'r amodau hyn i'r un graddau â phe bai'r cerbyd yn gerbyd hurio preifat trwyddedig.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2022