Tacsis
Mae angen trwydded ar bob gyrrwr a cherbyd hacni a hurio preifat sy'n gweithredu yn Abertawe.
Mae angen trwydded ar unrhyw gerbyd i'w hurio â gyrrwr ac sy'n cael ei ddefnyddio i gludo teithwyr am ffi neu wobrau.
Os hoffech drwydded am gerbyd ar gyfer cludiant ysgol, teithio i'r maes awyr neu hurio'n unig, bydd angen i chi gysylltu â ni. Gallwch ffonio (01792) 635600 neu fynd i'r Ganolfan Ddinesig. Argymhellwn eich bod yn gwneud apwyntiad cyn ymweld.
I gael mwy o wybodaeth am drwyddedu tacsis, ffoniwch yr Adran Drwyddedu ar (01792) 635600 neu e-bostiwch trwyddedutacsis@abertawe.gov.uk.
Newyddion ar gyfer y Fasnach Dacsi
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf gan yr is-adran Trwyddedu Tacsis.
Hyfforddiant diogelu ar gyfer gyrwyr cerbydau hacni a hurio preifat a cynorthwywyr teithwyr
Mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi arweiniad i awdurdodau lleol ddiweddaru amodau a safonau Trwyddedu Tacsis. Esbonnir y newidiadau yma a byddant yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd. Defnyddiwch y dolenni isod i weld y newidiadau pan fydd gwybodaeth ar gael.
Tax Conditionality affecting the Hackney Carriage and Private Hire Trade
DfT Statutory Taxi and Private Hire Vehicle Standards
Cerbydau - cerbyd hacni
Cerbydau - hurio preifat
Apwyntiadau profi cerbydau Hacni a hurio preifat
Gweithredwyr - hurio preifat
Gyrwyr - cerbydau hacni a hurio preifat
Arweiniad i fod yn yrrwr tacsi
Cysylltu â Thrwyddedu Tacsis
- Enw
- Cysylltu â Thrwyddedu Tacsis
- E-bost
- trwyddedutacsis@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635600