Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig

Dim ond deiliad y drwydded mangre all wneud cais i amrywio'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig. Os bydd Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn gadael y tŷ trwyddedig yna rhaid gwneud amrywiad ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich awdurdodi i werthu alcohol nes bod y cais cywir wedi'i wneud.Bydd angen i chi gael caniatâd gan y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig newydd.

Rhaid i'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig lenwi'r ffurflen  Consent of individual to being specified as premises supervisor (PDF, 43 KB). Bydd rhaid lanlwytho'r caniatâd hwn i'r ffurflen ar-lein felly bydd rhaid i chi sicrhau ei fod gennych cyn i chi gwblhau'r cais i amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig.

Mae'n rhaid i chi hefyd ddarparu'r drwydded mangre bresennol neu reswm pam na ellir ei darparu.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Chwefror 2024