Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Trwyddedau mangre

Bydd trwydded mangre'n berthnasol i werthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a reoleiddir a darparu lluniaeth gyda'r hwyr.

Beth yw adloniant a reoleiddir?

  • perfformiad drama
  • dangos ffilm
  • digwyddiadau chwaraeon dan do
  • adloniant bocsio neu ymgodymu
  • perfformio cerddoriaeth fyw 
  • chwarae cerddoriaeth a recordiwyd
  • perfformio dawns

Beth yw lluniaeth hwyrnos?

Ystyr hyn yw gwerthu bwyd neu ddiod cynnes rhwng 11.00pm a 5.00am.

Cais am drwydded mangre newydd

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn.Sicrhewch eich bod yn darllen y nodiadau arweiniol cyfan cyn cwblhau'r ffurflen.

Os ydych am werthu alcohol bydd angen i chi roi enw a manylion y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig (GMS). Bydd rhaid iddo gael trwyddedau personol. Bydd rhaid i'r GMS gwblhau ffurflen ganiatâd yn Atodiad C yn y pecyn cais.

Dylech gwblhau cynllun o'r eiddo a'i ddychwelyd gyda'r ffurflen wedi'i chwblhau. Mae arweiniad yn Atodiad A y pecyn cais.

Cysylltwch â'r Awdurdod Trwyddedu os ydych chi'n gwneud cais am drwydded mangre newydd neu amrywiad i drwydded mangre bresennol cyn cyflwyno'r ceisiadau er mwyn sicrhau y cytunir ar yr holl wybodaeth a dyddiadau. Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n annog ymgeiswyr i drafod cynigion â'r Swyddogion Trwyddedu ac i gyflwyno ceisiadau drafft cyn eu cyflwyno. Bydd y swyddogion yn rhoi gwybod os oes gofyn i'r ymgeisydd drafod y cynigion â'r awdurdodau cyfrifol. Gall methu cysylltu arwain at oedi'ch cais a chostau hysbysebu/gosod hysbysiadau diangen.

Y diwrnod ar ôl i chi gyflwyno'r cais i ni, mae'n rhaid i chi hysbysebu'r cais ar ffurf Hysbysiad ar y safle (gweler templed yn Atodiad E y pecyn cais).

O fewn 10 niwrnod gwaith yn dilyn cyflwyno'r cais, mae'n rhaid i chi hefyd hysbysebu'r cais mewn papur newydd a ddosberthir yn yr ardal.

Bydd eich cais hefyd yn cael ei hysbysebu ar ein tudalennau ceisiadau eiddo newydd.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Sut i gyflwyno cais am drwydded mangre newydd

Mae ein pecyn arweiniad mangre newydd (PDF, 494 KB) yn esbonio sut i wneud cais am drwydded mangre newydd ac mae'n cynnwys copïau o'r ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi. Dylech ddarllen hwn yn ofalus wrth i chi lenwi'r ffurflenni. Mae'r ddogfen hon yn 55 o dudalennau felly ni fyddwn yn argymell eich bod yn ei hargraffu.

Dylech lenwi'r ffurflen gais am drwydded mangre newydd (Word doc, 136 KB) yn llawn Gallwch naill ai ei hargraffu a'i llenwi â llaw neu ei llenwi ar eich cyfrifiadur.

Bydd angen i'r person a fydd yn dod yn oruchwyliwr dynodedig y fangre lenwi'r ffurflen 'Caniatâd unigolyn i gael ei nodi'n oruchwyliwr mangre' (Word doc, 42 KB). Gallwch naill ai argraffu hwn a'i llenwi â llaw neu ei llenwi ar eich cyfrifiadur.

Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ddwy ffurflen yn llawn gallwch naill ai eu cyflwyno trwy e-bost yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk neu eu postio i'r adran Drwyddedu.

Sut i wneud cais am amrywiad i Drwydded Mangre

Lawrlwythwch y  ffurflen gais amrywiad i drwydded mangre (PDF, 381 KB) i gyflwyno cais drwy'r post.

Ffurflenni perthnasol eraill efallai byddwch eu hangen ar gyfer trwydded mangre

Gwnewch gais am hysbysiad o fân amrywiad i dystysgrif mangre clwb ar-lein Hysbysiad o fân amrywiad ar drwydded mangre

Gwnewch gais am Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig ar-lein Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig

Gwnewch gais am Hysbysiad o fudd mewn mangre ar-lein Hysbysiad o fudd mewn mangre

Gwnewch gais am Cais i drosglwyddo trwydded mangre ar-lein Cais i drosglwyddo trwydded mangre

Gwnewch gais am Hysbysiad awdurdod dros dro ar-lein Hysbysiad awdurdod dros dro

 

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd rhaid i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.

Mae ffurflenni eraill ar gyfer trwyddedau eiddo hefyd ar gael ar Gov.uk website (Yn agor ffenestr newydd).

Ffioedd

Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003 Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i anfon ynghyd â'r ffurflen.

 

Caniatâd dealledig

Mae gennym gyfnod targed o 40 niwrnod i brosesu'r hysbysiad hwn. Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn. Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl y cyfnod hwn, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.

Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau pan fyddwn yn derbyn cais cyflawn, gan gynnwys dogfennau ategol a thâl.

Ar gyfer mân amrywiadau nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol.Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych yn clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod. 

 

Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i dystysgrif apelio i'w Lys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o apelio'r penderfyniad.

Mae gennym gofrestr gyhoeddus sy'n nodi'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. I weld y gofrestr, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu i drefnu amser. Mae'r gofrestr ar gael i'w gweld yn ystod oriau swyddfa yn unig.

Hysbysiad o fân amrywiad ar drwydded mangre

Os hoffech wneud newid bach i'ch trwydded mangre, gallwch wneud cais am fân amrywiad i drwydded mangre. Mae hon yn ffordd ratach a chyflymach o ddiwygio'ch trwydded.

Nodiadau arweiniol ar gyfer cyflwyno cais i wneud mân amrywiad i drwydded mangre

I sicrhau eich bod yn cwblhau'r ffurflen mân amrywiadau yn gywir, darllenwch yr arweiniad yn ofalus.

Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig

Dim ond deiliad y drwydded mangre all wneud cais i amrywio'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig. Os bydd Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn gadael y tŷ trwyddedig yna rhaid gwneud amrywiad ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich awdurdodi i werthu alcohol nes bod y cais cywir wedi'i wneud.Bydd angen i chi gael caniatâd gan y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig newydd.

Hysbysiad o fudd mewn mangre

Os oes gennych ddiddordeb cyfreithiol mewn adeilad trwyddedig, gallwch wneud cais i dderbyn hysbysiad am unrhyw faterion trwyddedu sy'n effeithio ar y fangre.

Cais i drosglwyddo trwydded mangre

Os yw mangre wedi'i gwerthu neu os yw'n newid perchnogaeth, gallwch wneud cais i drosglwyddo'r drwydded mangre. Bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliad presennol y drwydded.

Nodiadau arweiniol ar gyfer gwneud cais i drosglwyddo trwydded mangre

Dilynwch ein harweiniad i sicrhau eich bod yn cwblhau'r ffurflen trosglwyddo trwydded mangre yn gywir.

Hysbysiad awdurdod dros dro

Yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd, ansolfedd neu newid mewn statws mewnfudo deiliad trwydded mangre, gellir creu hysbysiad awdurdod dros dro fel nad yw'r drwydded mangre yn dod i ben.

Nodiadau arweiniol ar gyfer gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro

Wrth lenwi hysbysiad o awdurdod dros dro, sicrhewch eich bod yn dilyn yr arweiniad fel eich bod yn llenwi'r ffurflen yn gywir.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mai 2022