Amserau bysiau
Gallwch gael amserau cludiant cyhoeddus yn Abertawe a'r cyffuniau gyda Traveline Cymru.
Traveline Cymru yw'r gwasanaeth gwybodaeth cludiant cyhoeddus i Gymru. Mae'n darparu gwybodaeth fanwl i'r cyhoedd am deithio ar y bws neu'r trên ledled Cymru.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fysus neu drenau defnyddiwch y cynlluniwr teithiau uchod neu ffoniwch Traveline Cymru ar 0800 464 0000. Mae hwn yn wasanaeth rhadffôn sy'n cynnig gwybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Neu ewch i wefan traveline.cymru (Yn agor ffenestr newydd).
Gallwch hefyd lawrlwytho app Traveline Cymru oddi wrth y iPhone App store (Yn agor ffenestr newydd) neu Android marketplace (Yn agor ffenestr newydd).
Amserau bysiau drwy neges destun
Edrychwch ar eich safle bws i ddod o hyd i beth yw eich côd safle bws 7 llythyren unigryw (gellir dod o hyd i'r côd hwn ar wefan Traveline Cymru (Yn agor ffenestr newydd) hefyd) ac anfonwch y côd safle bws fel neges destun i rif neges destun Traveline 84268.
Byddwch yn talu ffi safonol eich rhwydwaith am negeseuon testun sy'n cael eu hanfon i 84268. Does dim ffi ar gyfer negeseuon sy'n cael eu derbyn.