Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Angladdau Annibynnol (heb Drefnydd Angladdau)

Tybir yn aml mai dim ond gyda gwasanaeth trefnwr angladdau y gellir trefnu angladd, ond nid yw hyn yn wir. Mae rhai pobl yn cael cysur drwy fod yn rhan o'r broses - naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl - wrth drefnu angladd anwylyn.

Pan fydd Marwolaeth

Os bydd rhywun yn marw gartref, cysylltwch â'r meddyg a ddaeth i weld yr ymadawedig yn ystod ei salwch terfynol. Bydd y meddyg teulu'n cadarnhau'r farwolaeth ac yn cyflwyno tystysgrif sy'n nodi'r rheswm dros y farwolaeth. Efallai y bydd y meddyg teulu yn rhoi'r dystysgrif i chi'n syth neu'n eich cynghori i'w chasglu o'r feddygfa. Ar yr adeg hon, bydd angen i chi ystyried a fydd claddedigaeth neu amlosgiad. Os ydych chi eisoes wedi penderfynu cael amlosgiad, dywedwch wrth y meddyg teulu fel y gall baratoi'r ffurflenni perthnasol.

Os bydd person yn marw yn yr ysbyty, fel arfer bydd y meddyg sydd yno'n rhoi'r dystysgrif i chi neu drwy swyddfa weinyddu'r ysbyty.

Os nad yw'r meddyg sydd yno'n gallu nodi'r rheswm dros y farwolaeth, neu os na fu ymarferydd meddygol yn gweld y person a fu farw'n ddiweddar, bydd y crwner yn cael gwybod.

Cofrestru Marwolaeth

Dylai'r perthynas agosaf neu'r person sy'n trefnu'r angladd fynd â'r dystysgrif feddygol i swyddfa'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau o fewn pum niwrnod o farwolaeth. Dylech drefnu apwyntiad i wneud hyn drwy ffonio Swyddfa Gofrestru Abertawe ar y rhif ffôn canlynol: 01792 637444.

Wrth gofrestru'r farwolaeth, mae'n bwysig bod holl fanylion yr ymadawedig yn cael eu darparu'n gywir; gall unrhyw gamgymeriadau y mae angen eu cywiro atal yr angladd rhag mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad. Mae hefyd yn syniad da cael mwy o gopïau o'r dystysgrif marwolaeth er mwyn gallu hawlio asedau'r person sydd wedi marw'n ddiweddarach.

Os bu'r crwner yn rhan o'r broses a bod yn rhaid cynnal cwest, bydd y crwner yn cyflwyno Ffurflen 6 (tystysgrif felen) ar gyfer amlosgiad neu Orchymyn Crwner ar gyfer claddedigaeth (tystysgrif wen) i'r cofrestrydd er mwyn i'r angladd fynd rhagddo heb oedi'r broses yn ormodol.

Os bu'r crwner yn rhan o'r broses ond ni chynhelir cwest, ni all y perthynas agosaf gofrestru'r farwolaeth tan y bydd post-mortem crwner wedi'i gynnal a bod y crwner wedi cadarnhau'r rheswm dros y farwolaeth i'r cofrestrydd.

Cyn y gall unrhyw gladdedigaeth neu amlosgiad ddigwydd yn gyfreithlon, mae angen cwblhau rhai ffurflenni a'u cyflwyno i'r Awdurdod Claddedigaethau/Amlosgiadau a thalu'r ffioedd perthnasol am ddarparu ei wasanaethau.

Storio'r Corff nes yr Angladd

Os bydd rhywun yn marw yn yr ysbyty, efallai y bydd yr ymgymerwr yn cytuno i gadw'r corff ym marwdy'r ysbyty tan ddiwrnod yr angladd, o bosibl yn ddi-dâl.

Os bydd rhywun yn marw yn y cartref, efallai y bydd trefnydd angladdau lleol yn cytuno i ddarparu'r cyfleuster marwdy i'ch cynorthwyo. Yn y cyfamser, dylai'r corff gael ei gadw mewn ystafell oer sydd wedi'i hawyru'n dda. Pe bai oedi annisgwyl rhwng dyddiad y farwolaeth a dyddiad gwirioneddol yr angladd, efallai y bydd angen ystyried balmeiddio'r corff.

Cludiant

Pan fo rhaid symud y corff o'r ysbyty, cofiwch gysylltu â'r ymgymerwr ymlaen llaw i drafod trefniadau o'r fath. Mae angen cwblhau ffurflen o'r enw "dogfen ar gyfer rhyddhau corff" a'i chyflwyno i'r ymgymerwr, ynghyd â'r dystysgrif gwaredu a ddarperir gan swyddfa'r Cofrestrydd pan fyddwch yn cofrestru'r farwolaeth.

Os ydych yn bwriadu defnyddio car ystad neu fan, bydd angen i chi sicrhau bod digon o le i'r arch neu'r cynhwysydd yr ydych yn ei ddefnyddio. Bydd angen help arnoch pryd bynnag y bydd yn rhaid i chi drin yr arch, felly byddai'n ddoeth cael o leiaf dri neu bedwar person i'ch cynorthwyo.

Arch neu Gynhwysydd

Rhaid cludo'r corff i'r fynwent neu'r amlosgfa mewn cynhwysydd addas, gan nodi'n glir enw ac oed yr ymadawedig. Mae eirch a chasgedi ar gael mewn amrywiol ddeunyddiau sy'n cydymffurfio â chyfraith amlosgi, yn ogystal â bod yn addas ar gyfer claddu, er enghraifft dim metel. Mae'r arch a ddefnyddir amlaf wedi ei gwneud o asglodfwrdd, wedi'i orffen mewn argaen o safon ac mae'r holl ddeunyddiau effaith metel sy'n addurno'r arch, er enghraifft dolenni a phlât enw wedi'u gwneud o ddeunydd plastig hylosg.

Ar gyfer amlosgiad, argymhellir bod yr ymadawedig wedi'i wisgo mewn gŵn angladdol neu fel arall mewn dilledyn o ddewis personol, ar yr amod ei fod wedi'i wneud o ddeunydd naturiol yn unig, er enghraifft cotwm/gwlân/sidan yn unig.

Y Seremoni neu'r Gwasanaeth

Mae capel yr amlosgfa ar gael ar gyfer gwasanaethau amlosgi a chladdu am gyfnodau o 30 munud. Mae arddull y gwasanaeth yn ddewis personol a gall fod yn draddodiadol neu'n gyfoes, yn grefyddol neu'n seciwlar, er y dylid penodi gweinidog i arwain y seremoni. Mae amryw opsiynau o ran cerddoriaeth, gan gynnwys emynau gan yr organydd preswyl, a gellir chwarae CDs a thapiau i fodloni gofynion unigol.

Lludw/gweddillion amlosgedig

Mae angen apwyntiad i gasglu o'r amlosgfa (lleiafswm o 48 awr ar ôl yr amlosgiad); bydd staff yr amlosgfa'n eich cynghori.

 

Am fwy o wybodaeth am unrhyw agwedd ar gladdedigaethau neu amlosgiadau yn Abertawe, cysylltwch â'r Gwasanaethau Profedigaeth ar 01792 636481 neu e-bostiwch gwasanaethauprofedigaeth@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith