Toglo gwelededd dewislen symudol

Claddedigaethau ac Amlosgiadau

Rydym yn gyfrifol am saith mynwent yn Abertawe a'r amlosgfa yn Nhreforys.

Mae lle ar gyfer beddau newydd ar gael mewn 6 lleoliad: Treforys, Ystumllwynarth, Pontybrenin, Rhydgoch, Danygraig a Choed Gwilym.

Gellir claddu aelodau o'r un teulu mewn beddau sydd eisoes yn bodoli ym mhob un o'r saith mynwent yn Abertawe, er bod lle'n mynd yn brin yng Nghwmgelli. Mae ardaloedd arbennig wedi cael eu neilltuo ym mhob mynwent i gladdu gweddillion a amlosgwyd, gyda phob plot wedi'i farcio gyda chofeb briodol.

Amlosgfa Abertawe

Mae amlosgfa Abertawe ar dir Mynwent Treforys yng ngogledd y ddinas.

Mynwent Treforys

Mae Mynwent Treforys yn cwmpasu oddeutu 38 erw yng ngogledd y ddinas ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1915.

Mynwent Ystumllwynarth

Mae Mynwent Ystumllwynarth yn cwmpasu oddeutu 28 erw yn ardal y Mwmbwls o'r ddinas, ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1883.

Claddedigaeth Goetir ym Mynwent Ystumllwynarth

Mae man claddu coetir Ystumllwynarth yn cynnig dewis amgen naturiol i ddewisiadau claddu a llosgi confensiynol.

Mynwent Danygraig

Mae Mynwent Dan-y-graig yn cwmpasu oddeutu 20 erw yn nwyrain Abertawe ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1856.

Mynwent Cwmgelli

Mae Mynwent Cwmgelli'n cwmpasu oddeutu 8 erw yn ardal Treboeth ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1896.

Mynwent Coed Gwilym

Mae mynwent Coed Gwilym yng Nghlydach. Mae cofnodion claddu ar gyfer y fynwent ar gael sy'n dyddio o 8 Ebrill 1920.

Mynwent Rhydgoch

Mae mynwent Rhydgoch i'r de o Bontarddulais mewn ardal lled-wledig. Mae cofnodion claddu ar gael ar gyfer pob claddedigaeth o 1907.

Mynwent Pontybrenin

Mae Mynwent Pontybrenin ar ymyl Gorseinon. Mae cofnodion claddu ar gyfer y fynwent ar gael o 2 Ebrill 1935.

Claddedigaeth naturiol ym Mynwent Pontybrenin

Mae'r fynwent ddôl hon yn cynnig dewis amgen naturiol i gladdedigaeth gonfensiynol ac opsiynau amlosgi.

Amserau agor mynwentydd ac amlosgfeydd

Mae ein Mynwentydd a'n Hamlosgfa ar agor i'r cyhoedd 365 niwrnod o'r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys pob mynwent - Coed Gwilym, Cwmgelli, Dan-y-graig, Pontybrenin, Treforys, Ystumllwynarth, Rhydgoch a Neuadd Goffa a Gerddi Amlosgfa Abertawe.

Ffioedd claddu ac amlosgi

Manylion costau claddedigaethau ac amlosgiadau yn ein mynwentydd a'n hamlosgfa.

Angladdau Annibynnol (heb Drefnydd Angladdau)

Tybir yn aml mai dim ond gyda gwasanaeth trefnwr angladdau y gellir trefnu angladd, ond nid yw hyn yn wir. Mae rhai pobl yn cael cysur drwy fod yn rhan o'r broses - naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl - wrth drefnu angladd anwylyn.

Claddedigaethau ar dir preifat

Fel arfer cleddir pobl mewn mynwentydd neu fynwentydd eglwysi, fodd bynnag, mae rhai unigolion yn dewis cael eu claddu ar dir preifat, megis tir ffermio neu erddi preifat.

Dewis trefnydd angladd

Wrth ddewis trefnydd angladd mae'n bwysig sicrhau eich bod yn fodlon ar y gwasanaeth rydych yn ei dderbyn. Dylai trefnydd yr angladd roi amcangyfrif o'r holl gostau wedi'i eitemeiddio.

Chwilio cofnodion mynwentydd ac amlosgfeydd dinesig

Rydym yn gallu derbyn ceisiadau er mwyn chwilio'n cofnodion mynwentydd ac amlosgfeydd dinesig i gael manylion claddedigaethau a gafwyd.

Cwestiynau cyffredin ynglŷn ag angladdau iechyd cyhoeddus

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am angladdau cyhoeddus.

Claddedigaethau ac amlosgiadau cyswllt

Os os gennych unrhyw ymholiadau am y mynwentydd a'r amlosgfa yn Abertawe, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio, e-bostio neu drwy alw heibio.

Coffa a chofebion

Mae cofeb yn ffordd barhaol ac unigryw o gofio bywyd anwylyd; gall fod yn ganolbwynt i deulu a ffrindiau ymweld ag ef i fyfyrio ar eu colled a galaru.
Close Dewis iaith