Toglo gwelededd dewislen symudol

Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd

Os nad ydych yn credu bod eich sgôr yn adlewyrchu amodau eich busnes bwyd pan gafodd ei archwilio, gallwch apelio yn ei erbyn.

Nid yw'r weithdrefn apeliadau ar gyfer gofyn am ailarchwiliad os ydych wedi gwneud gwaith ar ôl yr archwiliad cychwynnol.

Sut gallaf apelio?

Yn y lle cyntaf, efallai y byddwch yn dymuno siarad â'ch swyddog archwilio, i geisio datrys y mater yn anffurfiol. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut y cafodd eich cyfradd ei chyfrifo ac i weld a ydych yn gallu datrys y mater heb orfod apelio.

Rhoddir enw'r swyddog archwilio a'i fanylion cyswllt ar yr adroddiad archwilio. Ein bwriad yw anfon yr adroddiad hwn o fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr archwiliad.

Ffurflen apelio

Apeliwch yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd ar-lein Apeliwch yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd ar-lein

Os nad yw'r anghydfod yn cael ei ddatrys yn anffurfiol, neu os yw'n well gennych beidio â siarad â'r swyddog archwilio, dylech gyflwyno'r apêl o fewn 21 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad am y sgôr. Bydd apeliadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau o 21 diwrnod yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Sylwer bod nifer y dyddiau yn cynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus.

Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r ffurflen, ffoniwch yr Is-adran Bwyd a Diogelwch ar 01792 635600.

Efallai y bydd rhaid i ni siarad â chi i egluro'r pwyntiau a nodwyd gennych. I osgoi oedi, sicrhewch fod gennym eich rhif ffôn cysylltu yn ystod y dydd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ystyrir apeliadau gan y swyddog arweiniol dros fwyd a diogelwch, a fydd yn edrych ar gofnodion yr archwiliad ac unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych fel rhan o'r apêl.

Efallai y bydd rhaid i'r swyddog arweiniol siarad â'r swyddog a gyflawnodd yr archwiliad a/neu weithredwr y busnes bwyd. Mewn rhai achosion, mae'n bosib y bydd angen cynnal ymweliad arall â'r sefydliad. Bydd yr ymweliad hwn yn cael ei gynnal ar adeg pan fo'r fangre'n cael ei hysbysebu neu pan wyddys ei bod ar agor, neu ar adeg pan wyddys fod staff ar y fangre'n paratoi bwyd i'w werthu. Oherwydd y raddfa amser fer iawn lle bydd rhaid i unrhyw apêl gael ei brosesu, efallai na fydd yn bosib rhoi hysbysiad o'r ymweliad ymlaen llaw, a bydd un ymweliad yn unig.

Hysbysiad o ganlyniad yr apêl

Nes i ganlyniad yr apêl gael ei benderfynu, bydd y wefan yn dangos, ar gyfer y sefydliad dan sylw, bod yr asesiad o'r safonau hylendid yn 'aros i'w gyhoeddi'. Ni fydd y sgôr flaenorol yn cael ei harddangos ar y wefan.

Anfonir penderfyniad y swyddog arweiniol at weithredwr y busnes bwyd cyn gynted â phosib ac o fewn 21 niwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr apêl, a chyhoeddir y sgôr ar y wefan genedlaethol.

Beth os nad wyf yn cytuno â chanlyniad yr apêl?

Gallwch herio penderfyniad yr awdurdod lleol drwy adolygiad barnwrol.

Hefyd gallwch ddewis defnyddio Gweithdrefn Gwynion Gorfforaethol Dinas a Sir Abertawe, gan gynnwys mynd â'r mater at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol lle y bo'n briodol os ydynt o'r farn nad yw gwasanaeth y cyngor wedi'i ddarparu'n briodol.

Apeliwch yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd ar-lein

Gallwch apelio os nad ydych yn meddwl bod eich sgôr yn adlewyrchu'r amodau yn eich busnes bwyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Medi 2021