Gwybodaeth am sgorau hylendid bwyd
Canfod rhagor am y cynllun yn ogystal â gwybodaeth ar gyfer busnesau bwyd am apeliadau ac ailarchwiliadau.
Gwybodaeth i breswylwyr
Mae'r wefan Sgorio Hylendid Bwyd yn rhestru'r holl fusnesau bwyd sydd wedi cael eu harchwilio dan y cynllun.
Mae'r cynllun yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am safonau hylendid y mangreoedd bwyd ar yr adeg y cânt eu harchwilio. Mae'r sgôr hylendid a roddir yn adlewyrchu'r hyn a ddaw'r swyddog diogelwch bwyd o hyd iddo ar y pryd.
Nid yw'n hawdd beirniadu safonau hylendid yn ôl golwg yn unig felly mae'r sgôr yn rhoi syniad i chi o'r hyn sy'n digwydd yn y gegin, neu y tu ôl i ddrysau caeedig.
Mae pob busnes bwyd yn cael sticer gyda'i sgôr ac mae ganddo ddyletswydd gyfreithiol i'w arddangos mewn man amlwg (megis y drws ffrynt neu ffenestr) ac ym mhob mynedfa i gwsmeriaid a darparu gwybodaeth am ei sgôr os gofynnir iddo.
Mae'r sgorau'n amrywio o 5 (da iawn) i 0 (angen gwella ar frys).
Gwybodaeth ar gyfer busnesau bwyd
Y cynllun sgôr hylendid bwyd yw'r cyfle i hyrwyddo safonau hylendid bwyd eich busnes bwyd i'ch cwsmeriaid.
Ar adeg yr archwiliad, rhoddir sgorau ar gyfer tri maes:
- pa mor hylan y mae'r bwyd yn cael ei drin - sut mae'r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a'i storio
- cyflwr y fangre - glendid, cynllun, goleuadau, awyriad a chyfleusterau eraill
- sut mae'r lleoliad yn rheoli ac yn cofnodi yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel.
Yna trosir y sgorau hyn yn radd hylendid bwyd. Cyhoeddir sgorau ar wefan genedlaethol a bydd gofyn i chi arddangos sticer mewn man amlwg (megis y drws blaen neu ffenestr) yn eich busnes bwyd er mwyn dangos eich sgôr.
Cyfanswm sgôr | Uchafswm y ffactor sgorio | Sgôr | Safonau hylendid |
---|---|---|---|
0 - 15 | Dim sgôr uwch na 5 | 5 (uchaf) | Da iawn |
20 | Dim sgôr uwch na 10 | 4 | Da |
25 - 30 | Dim sgôr uwch na 10 | 3 | Boddhaol ar y cyfan |
35 - 40 | Dim sgôr uwch nag 15 | 2 | Angen gwella |
45 - 50 | Dim sgôr uwch na 20 | 1 | Angen buddsoddiad sylweddol |
> 50 | - | 0 (bottom) | Angen gwella ar frys |
Os ydych yn anfodlon gyda'r sgôr a dderbynioch, mae gennych yr hawl i ymateb, apelio yn erbyn y sgôr, neu wneud cais am ailarchwiliad.
Gweithredir y cynllun yng Nghymru yn unol â'r Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), ond mae'r Cynllun Sgôr Hylendid Bwyd ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd, a chânt eu sgorio yn ôl yr un wybodaeth.