Apps Abertawe
Apiau ar gael i'w lawrlwytho i'ch dyfeisiau symudol.
Ap Llwybrau Tawe
Archwiliwch hanes, diwylliant a straeon cyfoethog Abertawe. P'un a ydych yn lleol neu'n ymwelydd, yr ap hwn yw'ch arweiniad i ddarganfod y gemau cudd a'r tirnodau sydd wedi llunio'r lle unigryw hwn.

Ydych chi'n barod i gamu nôl mewn amser? Gadewch i ni archwilio gyda'n gilydd!
Dadlwythwch nawr ar siopau apiau Apple ac Android!
Disgrifiad
Ap am ddim! Darganfyddwch harddwch naturiol a threftadaeth Abertawe drwy ein llwybrau a'n safleoedd treftadaeth sydd ar gael ar yr ap hwn. Mae fersiynau sain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dewiswch rhwng y testun ar y sgrîn neu gwrandewch wrth i chi gerdded! Gan ddefnyddio GPS, dilynwch eich taith drwy archwilio ein 6 llwybr unigryw fel: Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, y Garreg Wen, Parc Llewelyn, Camlas Clydach, Parc Treforys a Chwm Tawe Isaf! Profwch olygfeydd hyfryd, treftadaeth ddiddorol, hanes a mwy! Ewch tu fas a dechreuwch archwilio! Tybed beth byddwch yn ei ddarganfod ar hyd y ffordd?
Nodweddion
- Y tab archwilio gydag amryfal opsiynau, gallwch ddewis o: olwg lloeren, golwg stryd neu fap all-lein.
- Fersiwn sain wedi'i thrawsgrifio'n llawn ar gyfer pob un o'r llwybrau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Pinnau cyfeirbwyntiau GPS a gychwynnir yn gywir ar gyfer pob un o'r llwybrau.
- Lluniau ansawdd uchel o lwybrau a safleoedd treftadaeth.
- Cardiau post hun-lun gyda fframiau â gwahanol ddyluniadau.
- Gosodiadau hygyrchedd
- Nodweddion all-lein
Tawe Trails app - iTunes store (Yn agor ffenestr newydd)
Tawe Trails app - Google Play Android store (Yn agor ffenestr newydd)