Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad trin dogfennau

Rydym am i chi fwynhau ein casgliadau archifau a'n helpu i ofalu amdanynt a'u cynnal.

Our Services
Am fod ein dogfennau'n unigryw ac yn anamnewidiadwy, gofynnwn i chi gymryd gofal wrth eu defnyddio. Mae llawer o'r difrod i ddogfennau'n cronni gyda threigl amser ac nid yw bob amser yn weladwy. Felly, mae'n hanfodol eu trin yn dda er mwyn diogelu ein harchifau, y gall rhai ohonynt fod yn wan ac yn frau. Mae gennym oll gyfrifoldeb i gynnal ein casgliadau unigryw.

Mae gennym ddogfennau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys:

  • Mapiau a chynlluniau
  • Memrwn a phapur
  • Cyfrolau wedi'u rhwymo
  • Sleidiau gwydr
  • Ffotograffau ac albymau ffotograffau.

Bydd y pwyntiau canlynol yn eich helpu i ddefnyddio'r holl eitemau hyn yn gywir:

  1. Sicrhewch fod eich dwylo'n lân wrth ddefnyddio dogfennau.
  2. Defnyddiwch bensiliau yn unig i gymryd nodiadau. Ni chaniateir pinnau ysgrifennu na beiros mewn unrhyw ran o'r ystafell chwilio archifau. Mae hyn am y gallent ollwng ac os caiff dogfen ei marcio ar ddamwain, nid oes modd dileu'r marciau.
  3. Cymerwch ofal wrth drin dogfennau, gan gyffwrdd â nhw cyn lleied â phosib. Rydym yn darparu stribiau o bapur heb asid i'ch galluogi i ddilyn testun yn hytrach na defnyddio blaenau'ch bysedd (gweler y llun)
  4. Peidiwch â llyfu'ch bysedd i droi tudalennau dogfen - bydd hyn yn achosi i'r papur staenio a gwanhau.
  5. Osgowch bwyso ar ddogfennau a pheidiwch â rhoi nodlyfrau ar eu pennau wrth ysgrifennu.
  6. Peidiwch â rhoi unrhyw ddogfennau ar y llawr.

Offer yr Ystafell Chwilio
I'ch helpu i ddarllen dogfen ar ongl gysurus, mae gennym ystod o ddeunyddiau yn ein hystafell chwilio a fydd yn sicrhau gweithdrefnau trin da.

Pwysau
Mae gennym amrywiaeth o bwysau ar gael. Mae 'nadroedd', sef pwysau plwm bach mewn gorchudd cotwm, yn cael eu defnyddio i ddal i lawr tudalennau cyfrolau sy'n troi o hyd. Mae pwysau crwn wedi'u gorchuddio mewn lledr yn cael eu defnyddio i ddal i lawr corneli mapiau a chynlluniau. Bydd staff yr ystafell chwilio'n cynorthwyo wrth ddadrolio mapiau a rhoi pwysau ar ddogfennau.

Clustogau Llyfrau
Pan gânt eu defnyddio'n gywir, mae'r rhain yn diogelu'r meingefn a cholfachau cyfrolau rhwym

Chwyddo
Rydym yn deall y gall fod yn anodd darllen rhai dogfennau. Mae gennym chwyddwydrau a chwyddwydr fideo i'ch cynorthwyo. Gofynnwch i staff yr ystafell chwilio os hoffech eu defnyddio.

Llewys Polyester
Mae'r rhain yn cael eu defnyddio i orchuddio mapiau a rhoi diogelwch wrth eu defnyddio.

Menig
Gwelir defnyddio menig cotwm mewn ystafelloedd chwilio archifau mewn llawer o raglenni teledu ar hanes teulu. Yn wir, mae'n arfer da gwisgo menig cotwm wrth gyffwrdd â llawysgrifau prin a ffotograffau heb eu diogelu. Fodd bynnag, mae menig cotwm neu latecs yn gallu ei gwneud yn anoddach i ni drin deunydd bregus neu frau am y collir ein synnwyr cyffwrdd. Felly, nid yw'n bolisi gennym i roi menig ar gyfer pob dogfen a roddir yn yr ystafell chwilio. Mae llawer o'n casgliadau, yn enwedig ein ffotograffau, wedi'u diogelu gydag amgaeadau a llewys polyester. Bydd sicrhau bod eich dwylo'n lân cyn ac ar ôl defnyddio dogfennau'n helpu i atal trosglwyddo baw arwyneb o un ddogfen i'r llall.

Cofiwch, mae ein staff bob amser yno i roi cyngor ac arweiniad ar drin dogfennau, gofynnwch iddynt os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydym am sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael mynediad i'n casgliadau, a'n polisi yw cyflawni safon uchel o ofal.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ebrill 2023