Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.
Y mynwentydd lle cafodd meirwon sifil y rhyfel eu claddu
Ble i ddod o hyd i fynwentydd a'u cofnodion
Pwrpas y dudalen hon yw helpu i leoli'r mynwentydd lle cafodd meirwon sifil y rhyfel eu claddu. Rydym yn cadw y cofrestri claddedigaeth o rai ohonynt yn y Gwasanaeth Archifau. Os ydym, mae copiau o dudalennau perthnasol y gofrestr i'w llawrlwytho.
Claddwyd mwyafrif meirwon sifil y rhyfel mewn mynwentydd dinesig. Yn Abertawe, claddwyd 74 ym Mynwent Treforys, 66 yn Nan-y-graig, 60 yn Ystumllwynarth a 21 yng Nghwmgelli. Claddwyd dau arall ym Mynwent Pontybrenin yng Ngorseinon.
Gweinyddir yr holl fynwentydd hyn gan adran Claddedigaethau ac Amlosgiadau Cyngor Abertawe, sydd hefyd yn cadw'r cofrestrau. Gellir cael rhagor o wybodaeth am bob mynwent, gan gynnwys mapiau lleoliad a gwybodaeth am sut i ddod o hyd iddi ar wefan Cyngor Abertawe. Sylwer y codir ffi am chwiliadau'r gofrestr.
Claddwyd tri pherson, aelodau o'r un teulu, ym Mynwent Llanilltud Fach yng Nghastell-nedd. Claddwyd pob un o feirwon sifil y rhyfel Port Talbot ym Mynwent Goetre, Port Talbot. Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnal y mynwentydd hyn a gellir dod o hyd i fanylion am wasanaeth y mynwentydd hyn ar wefan Castell-nedd Port Talbot.
Mynwentydd eglwysi a chapeli
Claddwyd oddeutu traean o feirwon sifil y rhyfel Abertawe mewn mynwentydd eglwysi neu gapeli yn ardal Gorllewin Morgannwg. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r claddedigaethau hyn yn Eglwys San Pedr, y Cocyd (61) neu yn Eglwys Bethel, Sgeti (25).