Arddangosfa Fythynnod De Cymru'n agor ei drysau i'r cyhoedd
Cafwyd un ymdrech funud olaf i roi metlin ar y ffordd a'r promenâd a'i rolio cyn i'r arddangosfa agor i'r cyhoedd ar 8 Medi 1910.
Cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb gan y cyhoedd yn yr arddangosfa. Daeth llif cyson o ymwelwyr i weld y tai: yn eu plith roedd adeiladwyr posib yn ceisio syniadau, swyddogion y cyngor, arweinwyr lleol ac aelodau o'r cyhoedd a oedd yn awyddus i weld y cynlluniau. Roedd Syr Raymond Unwin yn un o'r panelwyr a ddaeth i weld yr arddangosiadau.
Yr hyn a welsant oedd amrywiaeth hyfryd o fythynnod, wedi eu hadeiladu mewn parau, fesul tri a fesul pedwar. Roedd rhai o gerrig, rhai o frics, a rhai wedi'u gorffen â rendro neu arwyneb llechi. Roedd tâl-meini a thalcendoai, cynteddau a ffenestri crom, yn erbyn cefndir ysblennydd Bae Abertawe. Mae bythynnod yr arddangosfa (y gwelir lluniau o rai ohonynt isod), yn dal i sefyll heddiw yn dyst i ymdrechion y cynllunwyr.
Beth ddigwyddodd nesaf? Darllen am ddatblygu'r arddangosfa yn stâd.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023