Beth ddigwyddodd nesaf: cynllunio stâd ardd-ddinas
Trawsnewid ffermdir gwyntog yn stâd dai fodern
Cyflwynwyd cynlluniau a oedd yn gynyddol fawreddog i ddatblygu hyd at 500 o dai. Cafwyd trafodaethau ynghylch sut i gyflawni hyn a faint o dai y dylid eu hadeiladu gyda'i gilydd mewn bloc. Ym 1914 cwblhawyd rhes arbrofol o chwe th? ger cylch yr arddangosfa. Yn wreiddiol fe'u gelwid yn fythynnod Sampl Mayhill, a heddiw dyma eilrifau 2 i 12 Heol Islwyn.
Rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau fwy neu lai oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf, a pharhâi'r clwstwr o dai a adeiladwyd ym Mayhill dan yr enw poblogaidd Mayhill Garden City (Gardd-ddinas Mayhill). Pan ailgychwynnwyd ar yr adeiladu, roedd yn rhaid diystyru llawer o'r cynlluniau gwreiddiol oherwydd canllawiau newydd.
Ar ôl y rhyfel, roedd hi'n argyfwng ar y sefyllfa dai ar draws y wlad i gyd. Pasiwyd Deddf Tai 1919, a orchmynnai pob awdurdod lleol i gyflwyno cynllun tai. Am fod Abertawe wedi gwneud cymaint o'r gwaith paratoi'n barod, roedd yn gallu cyflwyno cynllun bron ar unwaith, ac o fewn misoedd o basio'r Ddeddf, dechreuwyd ar gam cyntaf yr adeiladu yn Townhill.
Wrth i'r gwaith ar y stâd fynd rhagddo, felly dechreuwyd ar y gwaith o glirio'r slymiau'n raddol. Erbyn 1940:-
- dynodwyd 227 o safleoedd yn anaddas i fyw ynddynt
- dymchwelwyd 1245 o dai
- roedd 1621 o deuluoedd a 6034 o bobl wedi'u hailgartrefu
Am ddarllen mwy?
Mae'r Gwasanaeth Archifau'n gwerthu llyfr o'r enw "Homes for Heroes" am ddatblygiad Townhill a stadau tai cyngor eraill yn Abertawe. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.