Toglo gwelededd dewislen symudol

Slymiau cudd Abertawe

Cipolwg cyflym ar amodau byw rhai o'r teuluoedd tlotaf yn y gorffennol

Hidden Slums
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg tyfodd poblogaeth y dref yn gyflym iawn wrth i fasnach a diwydiant ddatblygu. Roedd galw mawr am dir ar gyfer tai ac felly roedd cynifer o'r tai newydd yng nghanol y dref o safon wael.

Yn waeth o lawer roedd datblygiadau'r slymiau a fodolai yn y mannau y tu cefn i'r prif strydoedd. Hwyrach na fyddai'r ymwelydd prysur wedi sylwi arnynt wrth fynd heibio. Arweiniai lonydd cul oddi ar y prif strydoedd i'r cowrtiau y tu cefn. Wrth fynd drwy un o'r rhain, byddech yn dod at ale gul a hyd at ddwsin o dai bychain cyfyng o bob tu iddi. Roedd un ystafell lan lofft ac un lawr llawr, ac weithiau byddent gefn wrth gefn. Byddai'r drysau ffrynt yn agor yn syth i'r ale. Gyferbyn byddai naill ai rhes o dai tebyg neu wal derfyn uchel: doedd dim gerddi, a byddai'r adeiladau uchel ar y naill ochr a'r llall yn eu gwneud yn fannau tywyll, tlodaidd a digysur i fyw ynddynt.

Roedd y cyfleusterau iechydaeth yn arswydus. Byddai sawl ty yn rhannu'r un geudy (toiled), a ffynnai pob math o afiechydon. Serch hynny, magodd y bobl a drigai yn y tai hyn deuluoedd gan weithio'n galed i ennill bywoliaeth.

Ym 1852, comisiynwyd map manwl o'r dref gan y Bwrdd Iechyd Lleol i'w helpu i gynllunio ar gyfer system iechydaeth y dref yn y dyfodol. Mae'r map yn dangos mai un ystafell yn unig ar bob llawr oedd gan chwarter yr holl dai yng nghanol y dref. Mae'r rhanfap o'r map hwn yn dangos clwstwr o'r aleau a agorai ar Stryd Efrog. Roeddent ar y safle lle mae Sinema Vue heddiw. Mae'r tai wedi'u lliwio'n binc a'r geudai'n frown.

Darllen mwy am drigolion y tai ym 1901

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2023