Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg Adulam, Bôn-y-maen

Rhestr anrhydedd

Roedd Adulam yn gapel y Bedyddwyr Cymraeg ar ochr ddeheuol Cefn Road, Bôn-y-maen, gyda mynwent yn gyfagos iddi. Ffurfiwyd y gynulleidfa yn y 1840au. Adeiladwyd y capel ym 1850-51, ei wneud yn fwy ym 1878 a'i adnewyddu ym 1963. Caeodd y capel ar 19 Gorffennaf 2022 a throsglwyddwyd y cofnodion, gan gynnwys rhestr y gwroniaid, i'r Gwasanaeth Archifau yn 2023.

Mae rhestr y gwroniaid yn mesur 47cm x 60.5cm ac fe'i tynnwyd gan T. Lewis o Dreforys ym 1917. Trefnir enwau'r 48 o ddynion a fu'n brwydro mewn tair colofn ar gynrychioliad o sgrôl, wedi'i chysylltu gan yr ymyl uchaf ac yn dadrolio dan ei phwysau ei hun, o dan deitl addurnol gydag enw'r capel, llun wedi'i dorri allan a'i bastio arni o'r Arglwydd Kitchener, o dan amrywiaeth o faneri sy'n cynrychioli gwlad Belg, yr Eidal, Ffrainc, Rwsia, Japan a Serbia, gyda baner yr Undeb yn y canol. Mae'r geiriau "Gwell angeu na chywilydd" ar faner hanner-cylchog uwchben hyn. Mae rhuban wedi'i addurno ag amryfal enwau meysydd y gad yn ymgordeddu o gwmpas yr ymyl werdd, ac ar y pen uchaf, mae dwy ddraig Gymreig yn llenwi'r corneli gyda chynrychioliad o sêl hynafol Bwrdeistref Abertawe rhyngddynt. Mae'r dyluniad wedi'i wneud mewn inc a phaent posteri ar gefnyn cardbord

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF, 3 MB)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2023