Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Gorphwysfa, Sgiwen

Rhestr anrhydedd

Roedd Gorphwysfa yn gapel Methodistiaid Calfinaidd yn St John's Terrace, Sgiwen. Dechreuodd fel cangen o gapel Bethlehem Green yng Nghastell-nedd, a dechreuodd y gynulleidfa addoli'n gyntaf mewn capel o'r enw Zion yn Old Street, Sgiwen, cyn adeiladu Gorphwysfa ym 1893-4. Caeodd y capel yn 2022 a throsglwyddwyd y cofnodion, gan gynnwys rhestr y gwroniaid, i'r Gwasanaeth Archifau yn 2023.

Mae rhestr y gwroniaid yn mesur 52cm x 83cm ac mae wedi cael ei thynnu o'i ffrâm. Difrodwyd y ffrâm yn wael gan bryfed pren ac mae hyn hefyd wedi effeithio ar ymylon a chornelu rhestr y gwroniaid. Yr artist oedd Morgan Thomas o Abertawe, a dynnodd restr y gwroniaid Capel Henrietta Street, Abertawe hefyd. Mae ei gysyniad dylunio'n gymharol syml, ond yn chwaethus ac yn artistig, gyda theitl, cyflwyniad a rhestr o enwau o fewn ymyl, wedi'i haddurno â baner yr undeb ar bolyn yn unig. Mae'r galigraffeg yn gain iawn ac addurnir yr ymylon â mantellwaith a cheir addurnau blodeuol o gwmpas y pen uchaf a'r gwaelod. Defnyddir aur yn helaeth yn yr addurnau ac ar rai o'r priflythrennau. Mae saith deg o enwau i gyd. Rhennir y rhain yn dair colofn ac maent yn cofnodi rheng, enw a chatrawd pob un o'r dynion. Amlinellir pedwar enw i ddangos eu bod wedi marw yn y rhyfel, a chynhwysir y dyddiad y syrthiont hefyd

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF, 1 MB)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2023