Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys Bedyddwyr Cymraeg y Tabernacl, Cwmrhydyceirw, Treforys

Rhestr anrhydedd

Mae'r Tabernacl yn gapel y Bedyddwyr Cymraeg ar ochr orllewinol Cwmrhydyceirw Road, Cwmrhydyceirw, Treforys. Dechreuodd yr achos yno pan adeiladwyd ysgol Sul, cangen o Gapel Seion, Treforys, yno ym 1883-4. Ymgorfforwyd Capel y Tabernacl ym 1886 ac adeiladwyd capel newydd wrth ymyl yr hen un ym 1894-6, a pharhawyd i ddefnyddio'r hen gapel fel festri.

Mae rhestr y gwroniaid yn gofeb hardd. Mae'n mesur 53cm x 73.5cm ac fe'i tynnwyd gan J. W. J. James o Benrhiwforgan, Treforys. Mae wedi'i goreuro'n drwm ac yn dangos y capel, gyda baner yr undeb a baner answyddogol Cymru ar y pryd ar bob ochr iddi, gyda'r geiriau 'Goleuni y Bywyd' a 'Rhyddid Cyfiawnder' i'w gweld ar symbolau' sy'n cynrychioli Beibl agored. Mae'r ymylon wedi'u haddurno, y tu mewn a'r tu allan, gydag addurn llawryf arddulliedig, wedi'i rwymo â rhuban coch, gwyn a glas, lliwiau baner yr undeb. Mae'r rhestr yn cynnwys enwau 25 o ddynion o'r capel a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ond nid oes yr un ohonynt wedi'i anodi i ddangos eu bod wedi colli eu bywydau yn y rhyfel. Mae'r rhestr yn cynnwys eu rheng a'u catrawd.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [1MB]

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2023