Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Wladgarol Aber a Blaengwynfi

Rhestr o'r enwau i'w cynnwys ar y gofeb rhyfel

Hen bentrefi glofaol yw Abergwynfi a Blaengwynfi ar y naill ochr a'r llall o afon Afan, y tu hwnt i Bort Talbot ac i fyny tua phen y cwm. Ym 1875, roedd braidd dim yno, ond wrth ddatblygu gweithfeydd glo yno yn y degawdau canlynol, tyfodd terasau o dai'n gyflym i greu'r ddau bentref, ac roedd y rhain yn gymunedau cymharol newydd ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Pan gychwynnodd y rhyfel, roedd llawer o gymunedau ledled y wlad wedi sefydlu cronfeydd i gydnabod cyfraniad eu meibion a'u brodyr. Prynodd rhai ohonynt eitemau coffaol wrth i eraill wneud pethau mwy ymarferol. Ym 1915, sefydlodd preswylwyr Gronfa Wladgarol Aber a Blaengwynfi. Ei diben oedd darparu eitemau o gysur i filwyr lleol, i helpu milwyr clwyfedig a sâl ac i roi cymorth i ddibynyddion a theuluoedd.

Ar ddiwedd y rhyfel, cynigiwyd defnyddio'r arian i sefydlu cofeb. Mae'r ddogfen hon yn gopi union o'r llyfryn cyfrifon gwreiddiol a anfonwyd o gwmpas i hysbysebu cyfarfod cyhoeddus ynghylch cyfeiriad y gronfa yn y dyfodol. Mae'r rhestr o enwau, 45 i gyd, yn cofnodi dynion o'r ddau bentref a fu farw yn y rhyfel. Ymddengys fod y gofeb yng nghlwb y Lleng Brydeinig Frenhinol ym Mlaengwynfi. Mae'r unig gofeb awyr agored yno'n goflech lechen amhenodol, ddi-enw ar wal yn Stryd Jersey.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [525KB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023